David Davies (Dai'r Cantwr)

un o derfysgwyr "Beca

Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (c. 181210 Awst 1874) (neu David Davies i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1] Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.

David Davies
Un o faledi Dai'r Cantwr: Hiraeth am Gymru o Affrica, lle cafodd ei alltudio
Ganwyd1812 Edit this on Wikidata
Llancarfan Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1874 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), Llancarfan,[2] a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.

Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach! Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.

Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land (neu Tasmania heddiw), roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.

Y baledwr golygu

Tra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:

Drych i fyd wyf i fod,
Collais glod allswn gael.
Tost yw'r nod, ddyrnod hael
I'w gafael ddaeth a mi.
Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
Chwanegwyd er fy ngofid.
Alltud wyf ar ddechrau nhaith...

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.
  2. Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.