David Davis (Dafis Castellhywel)

gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr

Addysgwr, pregethwr a bardd o Geredigion oedd David Davis (14 Chwefror 17453 Gorffennaf 1827), a adnabyddir fel Dafis Castellhywel (neu Dafis Castell Hywel). Roedd yn fawr ei barch a'i boblogrwydd tua diwedd yr 18g a dechrau'r ganrif olynol. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanwenog.

David Davis
Ganwyd14 Chwefror 1745 Edit this on Wikidata
Llangybi Edit this on Wikidata
Bu farw1827 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Caerfyrddin
  • Ysgol Ramadeg Y Frenhines Elisabeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantTimothy Davis, David Davis Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg golygu

Ganed Dafis yn y Goetre Isaf ym mhlwyf Llangybi, ger Llanbedr Pont Steffan yn 1745, yr hynaf o saith o blant. Derbyniodd ei addysg gan David Jones (Llanybydder), T. Lloyd (Llangeler), Joshua Thomas (Ysgol Ramadeg Caerfyrddin) ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1763-7), a bu'n athro cynorthwyol yn Ysgol y Coleg am ysbaid. Daeth dan ddylanwad Joseph Jenkins, prifathro'r Academi, a arddelai Undodiaeth. Ond nid aeth Dafis yn Undodiad ond yn hytrach arddelodd Ariadaeth. Ym Mhlasbach, Ciliau Aeron, priododd Anne Evans y Foelallt, ŵyres Sgwïer Davies, Plasbach.

 
Llangybi (Ceredigion)
 
Capel yr Undodiaid yn Alltyblaca; tua 1885.
 
Eglwys Llanwenog, lle claddwyd Davis.

Gwaith golygu

Ymsefydlodd fel gweinidog ym mhlwyf Ciliau Aeron. Oddeutu 1782 symudodd i ardal Castellhywel (lle cafodd ei lysenw), i weinyddu yn Llwynrhydowen a mannau eraill yn y cylch, yn cynnwys Alltyblaca. Agorodd ei ysgol enwog yng Nghastellhywel tua 1782; cafodd nifer o bobl o deuluoedd blaenllaw addysg glasurol yno: daethwyd i'w hadnabod fel "Athen Ceredigion". Bu'n cadw ysgol am dros 30 mlynedd, a daeth ei enw'n adnabyddus drwy Gymru; ordeinid offeiriaid o'i ysgol am flynyddoedd. Ceir enwau tua 111 o'i hen ddisgyblion yn danysgrifwyr Telyn Dewi.[1]

Cyfathrebai gydag gwŷr blaenllaw ei gyfnod, gan gynnwys y Dr Richard Price, Iolo Morganwg, Thomas Roberts, Llwyn'rhudol, John Jones (Jac Glan-y-gors), a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi) a throes lawer o wŷr ei ardal yn bleidwyr dros y Chwyldro Ffrengig. Yn 1801-2 bu anghydfod a rhwyg yn ei eglwysi, a chododd yr Undodaidd gapeli ym Mhantydefaid a Chapel-y-groes. Ymddiswyddodd Davis ar 16 Ionawr 1820 wedi gweinidogaethu am 52 o flynyddoedd.

Awdur golygu

Cyhoeddodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, cyfieithiad o lyfr Henry Scougal, The Life of God in the Soul of Man (1779), cyfieithiad o fyfyrdod ar einioes ac angau o waith Thomas Gray (1789), Cri Carcharor dan farn Marwolaeth (1792), ac yn 1824 cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan yr enw Telyn Dewi.

Cyhoeddiadau ganddo golygu

  • Anerch i'r Duwdodh.d.
  • Bywyd Duw yn Enaid Dyn Caerfyrddin : Ioan Ross, 1789. 108 t.
  • Cri Carcharorion dan Farn Marwolaeth Caerfyrddin, 1792. Caerfyrddin : B. Morris, 1818. 8 t. Repr. Caerfyrddin : John Davies, 1923. Ail. Arg. Llandysul : J.D. Lewis, 1906
  • Cwymp Ffynnon Bedr h.d.
  • Golwg ar Fangre ac Amser Mebyd h.d.
  • Gwynfan h.d.
  • Hanes o Garwriaeth, Priodas a Marwolaeth gwr ieuanc o Gymru Cyf. Gan David Davis. Caerfyrddin : J. Evans, 1807. 4 t. Argraffiad arall. Caerfyrddin : J. T. Jones h.d. 4 t.
  • LlythyrYM, 1887 t. 265–7
  • Marwnad a ysgrifennwyd mewn Mynwent yn y Wlad Cyf. Gan David Davis (Saesneg Gray). 3tdd arg. Abertawe : J. Harris.
  • Myfrdod ar Einioes ac Angau a ysgrifennwyd mewn Mynwent yn y Wlad yn mrig yr hwyr Wedi droi o Saesneg Gray (Yr Argraffiad Cyntaf). Dewch goronog etc. *Caerfyrddin : J. Evans, 1798. 16 t. Ail. Arg. 1812 16 t.
  • Myfyrdod mewn Mynwent Cyfieithiad o waith Gray gan y Parch. D. Davis, Castell Howell. Dewch Goronog, felich sidanog A galluog yma'n lle etc. (4ydd arg.) Caerfyrddin : W. Thomas, 1857. 5ed arg. Caerfyrddin : W. Spurrell
  • Natur a Manteision Zel Gristionogol Caerfyrddin : J. Evans, 1809. 24 t. Cyf. Gan D. Davis
  • Telyn Dewi Abertawe : F. Fagg, 1824. viii, 210 t. Ail. Arg. Llanbedr : J. Davis, 1876. Aberystwyth : Welsh Gazette, 1927. xvi, 142 t.

Llyfryddiaeth amdano golygu

  • Evans, Elwyn : Gwr o Gastell Hywel.... Script Radio. Typescript
  • G : Dafydd Davis YM, 1938 t. 57–9
  • Griffiths, Thomas : Cofiant....David Davis Caerfyrddin : J. Evans, 1828. iv, 60 t.
  • J.R.J. : Dafis Castell Hywel CU 32, 1907 t. 245–52
  • Davies, J. P. : David Davis YM, 1927 t. 230–2
  • Edwards, W. : David Davis YM, 1927 t. 203–6
  • Evans, J. J. : David Davis YM, 1927 t. 215–22
  • Jenkins, D : David Davis YM, 1927 t. 201–3
  • Jones, J. J. : David Davis YM, 1927 t. 270–3
  • Jones, R. Jenkin : Dafis Castell Hywel a'r Groegwyr CU 17, 1899 t. 276
  • Jones, S : Davis Castellhywel fel Pregethwr YM, 1938 t. 183–7
  • Morfa : Davis Castellhywel HL, 1901 t. 106–9
  • Morris, E. B. : Y Rhai Fu CU 22, 1902 t. 282–3
  • Mursell, Arthur : David Davis Good Words, June, 1863
  • Owen, J. D. : David Davis YM, 1927 t. 206–15
  • Parry, H. : David Davis EUR, 1860 t. 381–3
  • Pryse, William : Dafis Castellhywel TR 4, 1848 t. 197–212
  • T.O.W. : David Davis YM, 1927 t. 223–9

Cerddi golygu

Cyhoeddwyd detholiad o waith barddol David Dafis yn 1824, dan yr enw Telyn Dewi. Roedd yn englynwr medrus. Mae ei gerddi yn cynnwys awdl i ddathlu'r Chwyldro Ffrengig.

Cyfeiriadau golygu

  1. [Y Bywgraffiadur Arlein';] Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynonellau golygu

  • J. J. Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937)
  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Wrecsam, 1922)