David Hasselhoff

actor a aned yn Baltimore yn 1952

Actor, canwr, cynhyrchydd a dyn busnes Americanaidd yw David Hasselhoff (ganwyd 17 Gorffennaf 1952),[1] sydd hefyd yn adnabyddus fel "The Hoff".[2]

David Hasselhoff
GanwydDavid Michael Hasselhoff Edit this on Wikidata
17 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
Man preswylEncino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Celf California
  • Prifysgol Bates
  • Prifysgol Oakland
  • Marist School
  • Lyons Township High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, canwr, cynhyrchydd ffilm, person busnes, ysgrifennwr, cyfarwyddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor llais, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
PriodCatherine Hickland, Pamela Bach Edit this on Wikidata
PlantHayley Hasselhoff, Taylor-Ann Hasselhoff Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://davidhasselhoffonline.com Edit this on Wikidata

Daeth i sylw gyntaf ar opera sebon The Young and The Restless, yn chwarae Dr. Snapper Foster. Datblygodd ei yrfa yn yr 1980au gyda'r brif rhan o Michael Knight ar y gyfres Knight Rider ac yr achubwyr bywyd Mitch Buchannon ar y gyfres Baywatch. Mae wedi ymddangos yn y ffilmiau Click (2006), Dodgeball, ffilm SpongeBob Squarepants a Hop.

Yn 2000, ymddangosodd am y tro cyntaf ar Broadway yn y sioe gerdd Jekyll & Hyde. Yn dilyn hynny serennodd mewn mwy o sioeau cerdd yn cynnwys Chicago a The Producers.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Hasselhoff yn Baltimore, Maryland, yn fab i Dolores Therese (née Mullinex/Mullinix; bu farw 11 Chwefror 2009), gwraig tŷ, a Joseph Vincent Hasselhoff, gweithredwr busnes.[1][3] Mae ei deulu yn Babyddion, o dras Almaenig, Gwyddelig a Saesnig.[3][4][5] Ymfudodd ei hen-hen-fam-gu, Meta, gyda'i theulu i Baltimore o Völkersen, Yr Almaen , 30 kilometre (19 mi) o Bremen, yn 1865.[6]

Treuliodd ei blentyndod yn Jacksonville, Florida, ac aeth i fyw yn ddiweddarach yn Atlanta, Georgia, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Marist. Perfformiodd Hasselhoff am y tro cyntaf ar lwyfan yn saith oed mewn sioe gerdd Peter Pan, ac ers hynny ei freuddwyd oedd cael gyrfa ar Broadway.[7] Graddiodd o Ysgol Uwchradd Lyons Township yn La Grange, Illinois yn 1970. Roedd yn aelod o'r tîm siarad cyhoeddus, arweinwyr trafod, llywydd y côr, capten y tîm pêl foli a chwaraeodd rannau mewn sawl drama (yn cynnwys un prif ran fel Matt yn The Fantasticks). Astudiodd ym Mhrifysgol Oakland cyn cael gradd theatr yn California Institute of the Arts.[8]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a'r actores Catherine Hickland o 24 Mawrth 1984 hyd 1 Mawrth 1989.[1] Ail-grewyd eu priodas ym mhennod "The Scent of Roses" ym mhedwerydd cyfres Knight Rider a ddarlledwyd gyntaf ar 3 Ionawr 1986.

Priododd Hasselhoff yr actores Pamela Bach yn Rhagfyr 1989.[9] Mae gan y cwpl ddwy ferch: Taylor Ann Hasselhoff, ganwyd 5 Mai 1990,[10] a fynychodd Prifysgol Arizona ac oedd yng nghast cyfres Rich Kids of Beverly Hills yn 2015, a'r actores Hayley Hasselhoff, ganwyd 28 Awst 1992.[11] Yn Ionawr 2006, cyhoeddodd Hasselhoff ei fod yn cofrestru am ysgariad, gan nodi anghytundeb digymod.[9] Cwblhawyd yr ysgariad yn Awst 2006.[12] Rhoddwyd gwarchodaeth un ferch i Bach a'r ferch arall i Hasselhoff,[13] hyd nes i Hasselhoff gael gwarchodaeth o'r ddau yn ddiweddarach.[12] Yn Rhagfyr 2010 roedd yn byw Ne Califfornia gyda'i ferched.[14]

Ers 2013, mae Hasselhoff wedi caru gyda Hayley Roberts, o Glyn-nedd. Mae'n dilyn rygbi'r undeb Cymreig, ac maent wedi mynd i nifer o gemau rygbi yng Nghymru.[15][16][17] Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 2018 yn yr Eidal.[18][19][20]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "David Hasselhoff Biography (1952–)" (yn Saesneg). Filmreference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 4 Awst 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "New crab with hairy chest dubbed "The Hoff"" (yn Saesneg). CBS News. 5 Ionawr 2012. Cyrchwyd 4 Ionawr 2014.
  3. 3.0 3.1 Hasselhoff, David; Thompson, Peter (2007). Making waves: The autobiography (yn Saesneg). Thomas Dunne Books. ISBN 9780340909294. Cyrchwyd 2014-01-04.
  4. Kohlhöfer, Philipp (3 Tachwedd 2010). "Trying to Be German in South L.A." Der Spiegel (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mai 2010. I thought for a moment. I needed examples of internationally famous German stars. But all I could offer in the way of music, aside from the great bard Hasselhoff, was The Scorpions
  5. "David Hasselhoff sucht deutsche Verwandtschaft – Der US-Amerikaner David Hasselhoff sucht in der Nähe von Kassel nach seinen deutschen Wurzeln" (yn Saesneg). Klamm.de. Cyrchwyd 22 Mai 2011.
  6. von der Wieden, Bianca (25 Gorffennaf 2010). "SWR1 Leute überrascht David Hasselhoff mit Bremer Vorfahren" (yn German). Presseportal. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
  7. Heller, Corinne. "OTRC: DAVID HASSELHOFF STARRING IN 'PETER PAN' IN UK, VISITS CHILDREN'S HOSPITAL BEFORE CHRISTMAS". ABC7.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-23. Cyrchwyd 23 Mehefin 2015.
  8. "Notable Alumni, California Institute of the Arts" (yn Saesneg). Calarts.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2008. Cyrchwyd 4 Awst 2010.
  9. 9.0 9.1 Silverman, Stephen M. (13 Ionawr 2006). "David Hasselhoff Files for Divorce". People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-16. Cyrchwyd 3 Mai 2016.
  10. "The Birth of Taylor Hasselhoff" (yn Saesneg). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "The Birth of Hayley Hasselhoff" (yn Saesneg). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 15 Ebrill 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. 12.0 12.1 "Ex-Attorney Sues Pamela Bach". The Washington Post (yn Saesneg). Associated Press. Awst 24, 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2012. Bach replaced [attorney Debra A]. Opri with Mark Vincent Kaplan several days after losing custody of the couple's two teenage daughters. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. "Hasselhoff 'violent' claims wife" (yn Saesneg). BBC News. 9 Mawrth 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2016. Cyrchwyd 3 Mai 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. Hinckley, David (2 Rhagfyr 2010). "The Hoff is no Knight Rider in A&E reality show". NY Daily News (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2017.
  15. "David Hasselhoff spotted in disguise at Wales rugby game". BBC News. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
  16. Kathryn Williams (24 Ebrull 2015). "David Hasselhoff's Welsh girlfriend Hayley Roberts on living and loving a legend". walesonline (yn Saesneg). Check date values in: |date= (help)
  17. "Autumn Internationals: David Hasselhoff's advice for Wales". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
  18. "David Hasselhoff, 65, reveals he's marrying Hayley Roberts, 37". Mail Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-17.
  19. "David Hasselhoff Details Upcoming Wedding to Hayley Roberts (Exclusive)". www.msn.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-17.
  20. "David Hasselhoff, 66, and Model Hayley Roberts, 38, Get Married in Italy!". www.msn.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-01.