David Livingstone

ysgrifennwr, cenhadwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, fforiwr (1813-1873)

Cenhadwr a fforiwr Albanaidd oedd David Livingstone (19 Mawrth 18131 Mai 1873).

David Livingstone
Ganwyd19 Mawrth 1813 Edit this on Wikidata
Blantyre, De Swydd Lanark Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1873 Edit this on Wikidata
o malaria Edit this on Wikidata
Ilala Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig, Yr Alban Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Glasgow
  • Charing Cross Hospital Medical School
  • Imperial College School of Medicine
  • Gilbertfield House School Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, ysgrifennwr, cenhadwr Edit this on Wikidata
PriodMary Livingstone Edit this on Wikidata
PlantAgnes Livingstone Bruce Edit this on Wikidata
PerthnasauRobert Moffat (explorateur) Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno â Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a'i anafodd yn ddifrifol.

Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agmes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeadr Mosi-oa-Tunya, a enwyd yn Rhaeadr Victoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.

O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Sansibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Sansibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Sambia.

Cyfeiriadau golygu