David Lloyd (tenor)

canwr opera Cymreig

Tenor Cymreig oedd David George Lloyd (6 Ebrill 191227 Mawrth 1969) a anwyd ym Merthengam, Trelogan, Sir y Fflint.

David Lloyd
Ganwyd6 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
Trelogan Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1969 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata

Roedd yn enwog am ganu opera, oratorio, a chyngerdd, ac yn arbennig am ei berfformiadau o Verdi a Mozart. Mae hefyd yn enwog am ganu hen emynau a chaneuon traddodiadol Cymreig. Fe'i dilynir heddiw (2015) gan y tenor Rhys Meirion, un o'i edmygwyr mawr. David Lloyd oedd un o'r cyntaf i fanteisio ar dechnoleg 'newydd' ei oes, sef y gallu i recordio'r llais, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, fyd-eang.

Y cyfnod cynnar golygu

 
Clawr record Y Llais Arian; (Sain (Records) Ltd; 2009

Roedd yn un o saith o blant, ac roedd ei dad yn lowr; gadwodd yr ysgol pan oedd yn 14 oed er mwyn cychwyn fel prentis saer coed. Cychwynodd eisteddfota'n ifanc iawn ac yn 1933 cychwynodd fel myfyriwr yn y Guildhall School of Music, Llundain, wedi iddo ennill ysgoloriaeth drwy gymorth Walter Hyde. Bu'n gryn llwyddiant yn y coleg a chipiodd sawl gwobr safonol.[1]

Gyrfa golygu

Yn 1938 cafodd chwarae rhan Macduff yn yr opera Macbeth gan Verdi - yng Ngŵyl Opera Glyndebourne; dyma oedd y perfformiad cyntaf o'r opera hon yng ngwledydd Prydain.[2] Yna cafodd ran flaenllaw fel y prif denor yng Ngŵyl Mozart yng Ngwlad Belg ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn mewn gŵyl Verdi, yn Nenmarc.

Ond pan ddaeth hi'n Rhyfel Byd yn 1939, bu'n rhaid iddo ymuno â'r Y Gwarchodlu Cymreig, lle treuliodd y pum mlynedd nesaf yn filwr ifanc.

Yn 1946 dychwelodd i'r llwyfan, ac ef oedd y prif denor mewn gŵyl yn yr Iseldiroedd: (Gŵyl Mozart a Verdi). O fewn dim, dychwelodd i wledydd Prydain lle bu'n denor yng Ngŵyl Verdi.

Damwain golygu

Tra'n gweithio ar raglen gan y BBC, disgynnodd dros geblau nad oeddent wedi'u gorchuddio, ac anafodd ei asgwrn cefn. Am y chwe mlynedd dilynol, methodd a chanu. Ymddangosodd unwaith - a hynny yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yng Ngorffennaf 1960.

Ar 27 Mawrth 1969, bu farw.

Disgyddiaeth golygu

  • Y Caneuon Cynnar, Cyfrol 1: 1940-41 (CD, 1994)
  • Y Canwr Mewn Lifrai, Cyfrol 2 (CD, 1995)
  • Y Llais Arian, Cyfrol 3 (CD, 2002)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Archives Network Wales - Papurau David Lloyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2015-02-27.
  2. Norwich, John Julius (1985). Fifty Years of Glyndebourne. London: Jonathan Cape. ISBN 0-224-02310-1., p. 159.