David Miall Edwards

diwinydd a llenor

Diwinydd a llenor Cymreig oedd David Miall Edwards (22 Ionawr 187329 Ionawr 1941). Ysgrifennai mewn Cymraeg a Saesneg ar ddiwinyddiaeth gan gymryd safbwynt Rhyddfrydiaeth a bu'n olygydd Y Dysgedydd ac Yr Efrydydd.[1]

David Miall Edwards
Ganwyd22 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Llanfyllin Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, diwinydd, athro cadeiriol Edit this on Wikidata

Ganed Edwards yn Llanfyllin, Powys yn 1873 yn fab i William a Jane Edwards[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanfyllin, Prifysgol Bangor, Coleg Bala-Bangor a Choleg Mansfield, Rhydychen. Ar ôl cyfnod fel gweinidog aeth yn athro diwinyddiaeth yn y Coleg Coffa, Aberhonddu lle arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1934.[1]

Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Annibynwyr Capel Salem, Blaenau Ffestiniog 1900 i 1904 a Chapel y Plough, Aberhonddu 1904 i 1909.

Ym 1914 priododd Lilian Clutton Williams, Manceinion.

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Esponiad ar Epistol Iago
  • Crefydd a Bywyd (1915)
  • Crist a Gwareiddiad (1921)
  • The Philosophy of Religion (1923)
  • Iaith a Diwylliant Cenedl (1927)
  • Bannau'r Ffydd (1929)
  • Christianity and Philosophy (1932)
  • Crefydd a Diwylliant (1934)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. Who's Who in Wales 1933, A G Renolds & Co, Llundain; Tud 53