David Morris (AS Caerfyrddin)

gwleidydd Cymreig (1800–1864)

Roedd David Morris (180030 Medi 1864) yn gyfarwyddwr banc ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1837 a 1864[1].

David Morris
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1864 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd David Morris yng Nghaerfyrddin yn fab hynaf William Morris, bancwr.

Roedd yn di briod

Gyrfa golygu

Sefydlodd tad cu Morris banc yng Nghaerfyrddin, Morris & Sons yn y 1780au, bu David Morris yn gweithio yn y banc gan godi'n gyfarwyddwr iddi. Roedd cyfnod Morris fel cyfarwyddwr yn un llewyrchus i'r cwmni [2]; pan ymddeolodd ar gael ei ethol i'r Senedd ym 1837 roedd ganddo ffortiwn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach[3])

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd yn etholiad cyffredinol 1837 fel Chwig, gan lwyddo i ddisodli 'r aelod Ceidwadol, David Lewis. Cafodd ei feirniadu yn hallt gan rhai sylwebyddion Rhyddfrydol am beidio â phledio achos Beca yn y Senedd ym 1839/40 [4], methodd y feirniadaeth i effeithio ar ei boblogrwydd fel aelod. Cadwodd y sedd (fel Rhyddfrydwr yn hytrach na Chwig, o 1859) hyd ei farwolaeth ym 1864 pan gafodd ei olynu gan ei nai William Morris. Yn y senedd ei ddiddordebau pennaf oedd materion ariannol ac addysg [5].

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin wedi salwch byr yn 64 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Caerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

  1. The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions - William Retlaw Williams adalwyd 22 Ionawr 2017
  2. "Notitle - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1864-10-07. Cyrchwyd 2017-01-22.
  3. Value of British money at today's date adalwyd 22 Ionawr 2017
  4. "No title - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1844-11-22. Cyrchwyd 2017-01-22.
  5. "CARMARTHENSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1846-03-13. Cyrchwyd 2017-01-22.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Lewis
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18371864
Olynydd:
William Morris