David Owen Evans

bargyfreithiwr, diwydiannwr, a gwleidydd

Roedd Syr David Owen Evans (5 Chwefror 187611 Mehefin 1945) yn gyfreithiwr, yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion o 1932 i 1945.

David Owen Evans
Ganwyd5 Chwefror 1876 Edit this on Wikidata
Penbryn Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, diwydiannwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir bywgraffyddol golygu

Cafodd Owen Evans ei eni ym Mhenbryn, Ceredigion yn fab hynaf i William Evans ffermwr, ac Eliza Jane (née Owen) ei wraig[1]. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanymddyfri ac yn yr Imperial College of Science.

Ym 1896 ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn Adran Cyllid y Wlad. Wrth weithio yn y gwasanaeth sifil astudiodd y gyfraith a galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn ym 1909. Bu yn ymarfer y gyfraith yng Nghylchdaith Llundain hyd 1916 pan ymunodd â Chwmni Nicel Mond, cwmni cyn AS Caerfyrddin Syr Alfred Mond, gan gael ei ddyrchafu yn brif swyddog gweinyddol y cwmni. Yn ddiweddarach daeth yn is-lywydd Cwmni Nicl Rhyngwladol Canada.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceredigion mewn isetholiad ym 1932 yn dilyn ymddiswyddiad Rhys Hopkin Morris. Cynrychiolodd Evans y sedd hyd ei farwolaeth sydyn ychydig cyn etholiad cyffredinol 1945. Yn rhestr anrhydeddau diddymu'r senedd cafodd ei anrhydeddu gydag urdd Marchog, ond bu farw cyn cael ei farchogi.

Ym 1899 fe briododd a Kate Morgan, athrawes yn Llundain, ni fu iddynt blant.

Gwasanaethodd fel aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion, Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn drysorydd Prifysgol Aberystwyth [2]

Roedd ganddo ddiddordeb mawr ym maes cerddoriaeth a byd yr Eisteddfod, gan wasanaethu am gyfnod fel llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Rhys Hopkin Morris
Aelod Seneddol dros Ceredigion
19321945
Olynydd:
Roderic Bowen