David Powel

clerigwr a hanesydd

Clerigwr a hanesydd Cymreig oedd David Powel (tua 15521598). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol ddylanwadol Historie of Cambria, now called Wales.

David Powel
Ganwyd1549 Edit this on Wikidata
Bu farw1598 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, clerig Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn fab i Hywel ap Dafydd o Llandysilio-yn-Iâl a Bryneglwys yn Sir Ddinbych. Aeth i astudio i Rydychen tua 1568, gan symud i Goleg Iesu pan sefydlwyd hwnnw yn 1571. Dywedir mai ef oedd y person cyntaf i raddio o'r coleg.

Dath yn ficer Rhiwabon yn 1570 ac ychwanegodd ficeriaeth Llanfyllin yn 1571, cyn cyfnewid Llanfyllin am ficeriaeth Meifod yn 1579. Yn 1588/9 daeth yn rheithor Llansantffraid-ym-Mechain. Dywedir iddo gynorthwyo yr Esgob William Morgan i gyfieithu'r Beibl.

Ym 1583 gofynnwyd iddo baratoi cyfieithiad Humphrey Lhuyd o Frut y Tywysogion i'r wasg. Helaethodd Powel ar y gwaith yma, ac yn 1584 cyhoeddodd Historie of Cambria, now called Wales, carreg filltir bwysig iawn yn hanesyddiaeth Cymru.

Priododd Elisabeth, ferch Cynwrig o Farchwiail, a chawsant dri mab.

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.