Economegydd o Sais yn yr ysgol glasurol oedd David Ricardo (18 Ebrill 177211 Medi 1823). Gan adeiladu ar waith arloesol Adam Smith, llwyddodd Ricardo i osod sail i wyddor economeg yn y 19g, a datblygu syniadaeth laissez-faire parthed rhan y llywodraeth yn yr economi.

David Ricardo
Ganwyd18 Ebrill 1772 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1823 Edit this on Wikidata
Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Man preswylGatcombe Park Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Talmud Torah school Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, brocer stoc, athronydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, High Sheriff of Gloucestershire Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
PriodPriscilla Ann Wilkinson Edit this on Wikidata
PlantDavid Ricardo, Osman Ricardo Edit this on Wikidata

Ganwyd David Ricardo yn Llundain, ac ef oedd y trydydd mab i rieni o Iddewon Seffardig a ymfudasant o'r Iseldiroedd i Loegr. Ymunodd â busnes ei dad ar Gyfnewidfa Stoc Llundain yn 14 oed, ac yn 20 oed fe ddaeth yn frocer stoc. O fewn pum mlynedd, llwyddodd David i ennill ffortiwn iddo'i hun, er iddo bechu yn erbyn ei dad gan droi'n Undodwr a phriodi Crynwraig. Trodd ei sylw at lenyddiaeth a'r gwyddorau, yn enwedig mathemateg, cemeg, a daeareg. Wedi iddo ddarllen The Wealth of Nations gan Adam Smith yn 1799, dechreuodd Ricardo ymddiddori yn economeg wleidyddol. Fe dreuliodd ddeng mlynedd yn astudio materion economaidd ac ariannol. Ysgrifennodd sawl pamffled, yn ogystal â llythyrau at y Morning Chronicle, cyn iddo gyhoeddi ei waith mawr cyntaf The Principles of Political Economy and Taxation (1817). Roedd Ricardo yn gyfaill i nifer o ddeallusion pwysig yr oes, gan gynnwys James Mill, Jeremy Bentham, a Thomas Malthus.

Ei gyhoeddiad cyntaf oedd The High Price of Bullion, a Proof of the Depreciation of Bank Notes (1810), casgliad ac estyniad o'i lythyrau at y Morning Chronicle ar bwnc cronfeydd aur y wladwriaeth a rôl Banc Lloegr. Ar y pryd, nid oedd yn rhaid i Fanc Lloegr dalu aur am ei bapurau punnoedd, ac o ganlyniad bu'r Banc a banciau gwledig yn Lloegr yn argraffu rhagor o bapurau ac yn cynyddu eu benthyciadau. Honnai cyfarwyddwyr Banc Lloegr nad oedd perthynas rhwng y cynnydd credyd y banciau a'r twf prisoedd a dibrisiant y bunt. Dadleuai Ricardo bod perthynas uniongyrchol rhwng nifer y papurau punnoedd a lefel y prisoedd, a bod prisoedd yn eu tro yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid tramor yn ogystal â mewnlif ac all-lif aur. Yn ôl dadansoddiad Ricardo, felly, roedd yn rhaid i Fanc Lloegr ofalu am ei gronfeydd aur a llunio'i bolisi benthyg yn nhermau amodau'r economi ac i reoli maint yr arian a'r credyd yn yr economi. Cytunodd Pwyllgor Bwliwn Tŷ'r Cyffredin â syniadau Ricardo, ac roedd y ddadl yn bwysig wrth ddatblygu damcaniaethau bancio canolog.

Cyhoeddodd Ricardo Essay on the Influence of a Low Price of Corn on the Profits of Stock (1815), mewn ymateb i ddadl dros y Deddfau Ŷd. Dadleuai Ricardo bod cynyddu'r tariff ar fewnforion ŷd yn debygol o gynyddu rhenti yng nghefn gwlad tra'n gostwng elw y gweithgynhyrchwyr. Yn ei waith The Principles of Political Economy and Taxation, cyhoeddodd Ricardo ei ddamcaniaethau pwysicaf: deddf haearn cyflogau, a'r fantais gymharol. Yn ôl deddf haearn cyflogau, mae cyflog yn tueddu i sefydlogi ar sail y lefel gynhaliaeth. Yn ei enghraifft enwog o'r fantais gymharol, esboniai sut yr oedd yn effeithlon i Loegr gynhyrchu brethyn a Phortiwgal gynhyrchu gwin, cyn belled â bo'r ddwy wlad yn masnachu gyda'i gilydd, hyd yn oed os oedd Portiwgal yn gallu cynhyrchu'r ddau nwydd ar gost is na Lloegr.

Yn 1814, ymddeolai Ricardo o'i fusnes a symudodd i fyw yn Swydd Gaerloyw. Yn 1819 fe brynodd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin a daeth yn Aelod Seneddol dros Portarlington. Bu'n rhaid iddo ymddeol yn 1823 o ganlyniad i afiechyd, a bu farw y flwyddyn honno yn Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw, yn 51 oed.

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar (1772–86) golygu

Ganwyd David Ricardo ar 18 Ebrill 1772 yn 36 Broad Street Buildings, Dinas Llundain. Efe oedd y trydydd mab i Abraham Israel Ricardo (1735 – 21 Mawrth 1812) a'i wraig Abigail, Delvalle gynt (1753 – 22 Hydref 1801). Ymfudwr o'r Iseldiroedd i Brydain Fawr oedd Abraham Ricardo, a oedd yn hanu yn ei dro o'r Iddewon Seffardig a ymfudasant i'r Iseldiroedd o Sbaen a Phortiwgal yn sgil y Chwilys.

Erbyn y 18g, teulu cefnog oedd y Ricardos a oedd wedi ymsefydlu yn Amsterdam. Brocer stoc yng Nghyfnewidfa Stoc Amsterdam oedd Joseph Israel Abraham (tua 1702 – 9 Mehefin 1762), a gweithiodd ei fab Abraham yn yr un swydd. Ymfudodd Abraham i Lundain tua 1760, ac yn 1769 priododd Abigail Delvalle, merch i farsiandïwr tybaco a snisin. Derbyniodd ddenisoniaeth yn 1771, sef ffurf ar ddinasyddiaeth a roddwyd i dramorwyr drwy freintlythyr. Iddew selog ac aelod amlwg o gymuned Seffardig Llundain oedd Abraham, a dyn cyndyn ei farn a thrwm ei law yn y cartref. Disgwyliad Abraham oedd i'w fab David ddilyn yn ei gamre i fyd yr arianwyr a'r masnachwyr, ac felly rhoddwyd iddo addysg i'w baratoi ar gyfer gyrfa yn y Ddinas.[1] Aeth i Amsterdam am ddwy flynedd, yn 11 oed, i astudio yn ysgol y Talmwd Tora. Dychwelodd i Loegr i orffen ei addysg cyn iddo ymuno â busnes ei dad.[2]

Gyrfa ariannol gynnar (1786–99) golygu

Dechreuodd David weithio yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain, yn glerc ac yn negesydd i'w dad, yn 14 oed. Daeth ei addysg ffurfiol i ben felly, ac eithrio rhywfaint o diwtora gan athrawon preifat.[1] Daeth yn frocer stoc yn 20 oed.

Symudodd y teulu Ricardo yn 1792 i ardal Bow, ac yno cafodd David garwriaeth â Priscilla Ann Wilkinson (1768–1849), merch i'r llawfeddyg o Grynwr Edward Wilkinson. Oherwydd gwahaniaethau crefyddol y teuluoedd, bu'n rhaid iddynt gyfathrebu drwy lythyrau cyn iddynt briodi yn Rhagfyr 1793. O ganlyniad, cafodd Ricardo ei ddiswyddo o fusnes ei dad a'i ddietifeddu gan ei rieni. Ni siaradodd yr un gair â'i fam am weddill ei hoes, a bu dim ond yn ailgymod â'i dad wedi marwolaeth ei fam. Yn sgil y briodas, trodd Ricardo ei gefn ar y synagog a mynychodd gyfarfodydd yr Undodwyr. Mae'n bosib iddo newid ei ffydd yn dilyn cyfnod hir o hunanymholi, ac mae ambell un o'i ysgrifeniadau yn myfyrio ar broblem drygioni yn awgrymu taw agnostig ydoedd.[1]

Wedi iddo gael ei fwrw allan o fusnes ei dad, cychwynnodd Ricardo ar sefydlu menter ariannol ar liwt ei hun, gan elwa ar ei gysylltiadau a'i enw da yn y Ddinas. Gweithiodd yn jobiwr yn y gyfnewidfa stoc ac yn gontractwr benthyciadau ar gyfer stociau'r llywodraeth.[1] Erbyn diwedd y 1790au, roedd yn meddu ar ddigon o gyfoeth iddo gynnal teulu mawr a throi ei sylw at astudiaethau personol. Yn y blynyddoedd i ddod, cafodd Ricardo a'i wraig wyth o blant.

Hunanaddysg (1799–1809) golygu

Yn ddiweddarach yn ei fywyd, cwynodd Ricardo am ei addysg gwta a diffygion yr hyn a ddysgodd oddi wrth ei dad, yn enwedig parthed ysgrifennu. Bu'n rhaid iddo droi at hunanaddysg yn ei ddauddegau a'i dridegau i lenwi'r bylchau yn ei ddealltwriaeth o'r byd. Trodd ei sylw at lenyddiaeth a'r gwyddorau, yn enwedig mathemateg, cemeg, a daeareg. Yn 1799 canfuasai copi o The Wealth of Nations gan yr economegydd clasurol Adam Smith mewn llyfrgell ar daith yng Nghaerfaddon. Dechreuodd Ricardo ymddiddori ym mhwnc economeg wleidyddol, a threuliodd ddeng mlynedd yn astudio materion economaidd ac ariannol. Ysgrifennodd sawl pamffled, yn ogystal â llythyrau at y Morning Chronicle, cyn iddo gyhoeddi ei waith mawr cyntaf The Principles of Political Economy and Taxation (1817). Roedd Ricardo yn gyfaill i nifer o ddeallusion pwysig yr oes, gan gynnwys James Mill, Jeremy Bentham, a Thomas Malthus.

Ymaelododd Ricardo â'r Pwyllgor dros Bwrpasau Cyffredinol y Gyfnewidfa Stoc yn 1801.[2]

Gyrfa lenyddol (1810–17) golygu

Ei gyhoeddiad cyntaf oedd The High Price of Bullion, a Proof of the Depreciation of Bank Notes (1810), casgliad ac estyniad o'i lythyrau at y Morning Chronicle ar bwnc cronfeydd aur y wladwriaeth a rôl Banc Lloegr. Ar y pryd, nid oedd yn rhaid i Fanc Lloegr dalu aur am ei bapurau punnoedd, ac o ganlyniad bu'r Banc a banciau gwledig yn Lloegr yn argraffu rhagor o bapurau ac yn cynyddu eu benthyciadau. Honnai cyfarwyddwyr Banc Lloegr nad oedd perthynas rhwng y cynnydd credyd y banciau a'r twf prisoedd a dibrisiant y bunt. Dadleuai Ricardo bod perthynas uniongyrchol rhwng nifer y papurau punnoedd a lefel y prisoedd, a bod prisoedd yn eu tro yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid tramor yn ogystal â mewnlif ac all-lif aur.

Yn ôl dadansoddiad Ricardo, felly, roedd yn rhaid i Fanc Lloegr ofalu am ei gronfeydd aur a llunio'i bolisi benthyg yn nhermau amodau'r economi ac i reoli maint yr arian a'r credyd yn yr economi. Cytunodd Pwyllgor Bwliwn Tŷ'r Cyffredin â syniadau Ricardo, ac roedd y ddadl yn bwysig wrth ddatblygu damcaniaethau bancio canolog.

Cyhoeddodd Ricardo Essay on the Influence of a Low Price of Corn on the Profits of Stock (1815), mewn ymateb i ddadl dros y Deddfau Ŷd. Dadleuai Ricardo bod cynyddu'r tariff ar fewnforion ŷd yn debygol o gynyddu rhenti yng nghefn gwlad tra'n gostwng elw y gweithgynhyrchwyr.

 
Tudalen deitl On the Principles of Political Economy and Taxation (1817).

Yn ei waith The Principles of Political Economy and Taxation, cyhoeddodd Ricardo ei ddamcaniaethau pwysicaf: deddf haearn cyflogau, a'r fantais gymharol. Yn ôl deddf haearn cyflogau, mae cyflog yn tueddu i sefydlogi ar sail y lefel gynhaliaeth. Yn ei enghraifft enwog o'r fantais gymharol, esboniai sut yr oedd yn effeithlon i Loegr gynhyrchu brethyn a Phortiwgal gynhyrchu gwin, cyn belled â bo'r ddwy wlad yn masnachu gyda'i gilydd, hyd yn oed os oedd Portiwgal yn gallu cynhyrchu'r ddau nwydd ar gost is na Lloegr.

Penderfynodd Ricardo gychwyn ar ymddeol yn araf deg o'i yrfa fusnes. Dechreuodd amrywiaethu ei fusnes drwy fuddsoddi mewn tir, benthyciadau morgeisiau. a chronfeydd Ffrengig.[1] Prynodd yn 1814 faenor Minchinhampton a'i hystâd ger Stroud, Swydd Gaerloyw, gan gynnwys eiddo Gatcombe Park, ac ymgartrefodd yno. Yn 1816 daeth i feddiant Maenorydd Bromesberrow a Burry Court yn ne Bryniau Malvern. Teithiodd rhwng Gatcombe Park, ym mha'r le oedd yn byw fel bonheddwr cefn gwlad, a'i dŷ tref yn Upper Brook Street yn ardal Mayfair, Llundain. Yn ei gartref yn y ddinas bu'n cynnal brecwastau i sgwrsio ar bynciau gwleidyddol ac economaidd, ac o ganlyniad i'r trafodaethau hyn sefydlwyd y Political Economy Club yn 1821.[2]

Gyrfa wleidyddol a diwedd ei oes (1819–23) golygu

Yn 1819 fe brynodd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin a daeth yn Aelod Seneddol dros Portarlington. Bwrdeistref bwdr yn Swydd Laois, Iwerddon, oedd Portarlington a chanddi dim ond deuddeg o etholwyr. Na ymwelodd Ricardo â'r etholaeth honno erioed.[2]

Bu'n rhaid iddo ymddeol o'r Senedd yn 1823 o ganlyniad i afiechyd. Bu farw David Ricardo ar 11 Medi 1823 yn Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw, yn 51 oed o ganlyniad i haint y glust. Wedi ei farwolaeth, rhoddwyd gwerth rhwng £675,000 and £775,000 (prisoedd 1823) ar ei ystad.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Terry Peach, "Ricardo, David (1772–1823), political economist", Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar 2 Hydref 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Keith Tribe, "Ricardo, David (1772–1823)" yn Encyclopedia of Nineteenth-Century Thought, golygwyd gan Gregory Claeys (Llundain: Routledge, 2005), tt. 550–54.