David Thompson (mapiwr)

arloeswr yn rhan Brydeinig Gogledd America

Roedd David Thompson (30 Ebrill 177010 Chwefror 1857) yn fasnachwr ffwr ac yn fapiwr a weithiai yng Ngogledd America, ac a oedd o dras Gymreig.[1]

David Thompson
Ganwyd30 Ebrill 1770 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1857 Edit this on Wikidata
Longueuil Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • The Grey Coat Hospital Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, mapiwr, canŵiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodCharlotte Small Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Cafodd ei eni yn Westminster i rieni a ddaeth o Gymru i fyw yno. Bu farw ei dad pan oedd yn ddwy oed ac fe'i magwyd yn y Grey Coat Hospital, ble y llwyddodd mewn mathemateg a dysgodd y grefft o fforio (neu 'fordwyo'). Yn 14 oed aeth i weithio i Ganada gyda'r The Hudson's Bay Company (HBC). Ym Mai 1784, glaniodd yn Churchill. Ym mis Hydref 1789,cafodd o wahoddiad i fynd ar daith i ardal Athabasca efo Philip Turnor a George Hudson. Roedd Turnor tirfesurydd swyddogol Cwmni Bae Hudson a dysgodd Thompson ei grefft. Ym Medi 1792 aeth o i fyny Afon Churchill, yn chwilio am ffordd ferrach i Athabasca. Ar ôl treulo 3 blynedd yn teithio Manitoba, aeth o yn ôl i fyny Afon Churchill ac Afon Carw, i Lyn Wollaston wedyn i fyny Afon Ddu i Lyn Athabasca.

Yng ngaeaf 1796-7, penderfynnodd Thompson adael Cwmni Bae Hudson oherwydd eu pwyslais ar farchnata, ac ymunodd â Chwmni'r Gogledd-Orllewin. Cyrhaeddodd eu pencadlys yn Grand Portage, ar lan Llyn Superior ar 22 Gorffennaf 1797. Gadawodd Grand Portage ar 9 Awst 1797 ar daith i sefydlu lleoliadau manwl gorsafoedd masnachu'r cwmni,, yn dilyn Cytundeb Jay rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau. Roedd hi'n rhan o'r Cytundeb bod rhaid i orsafoedd masnachu Prydeinig yn yr Unol Daleithiau cau. Aeth o i lawr Afon Lawiog i Lyn Glawiog, wedyn Llyn y Coedwigoedd a Llyn Winnipeg. Aeth o i fyny Afon Dauphin i Lyn Manitoba, wedyn Llyn Winnipegosis. Treuliodd o 2 fis yn arolygu Afon Carw Coch ac Afon Assiniboine.

Ar 28 Tachwedd 1797, dechreuodd gais i ddarganfod pentrefi'r llwyth Mandanac wedi eu darganfod nhw ar lannau Afon Missouri. Dechreuodd daith arall ar 28 Chwefror 1798. Arolygodd weddill dyffryn Assiniboine hyd at The Forks, sydd erbyn heddiw Winnipeg. Aeth i fyny Afon Goch ac Afon Lyn Coch i Lyn Coch. Meddyliodd fod o wedi darganfod ffynhonell Afon Mississippi yn Llyn Turtur, ond roedd o'n anghywir. Aeth o ymlaen i Lyn Superior a mapiodd ei lannau deheuol hyd at Sault Saint Marie. Cyrhaeddodd Grand portage eto ar 7 Mehefin 1798.

Dechreuodd daith arall ar 14 Gorffennaf 1798;aeth o i Lyn Winnipeg ac wedyn i fyny Afon Saskatchewan. Aeth ymlaen ar lannau Afon Churchill i Lac Ile-à-la-Crosse ac wedyn Lac la Biche, lle treuliodd y gaeaf. Ym Mawrth 1799 fforiodd o ogledd Alberta. Cyrhaeddodd o Lac Ile-à-la-Crosse eto ym Mai, lle priododd o Charlotte Small. Aethon nhw ar daith efo'u gilydd yn aml wedyn, ac aethon nhw i Montreal ar ôl ei ymddeuliad; cawson nhw 13 o blant.

Ym Mai 1802, aeth o i lawr Afon Saskatchewan i Fort Kaministiquia (erbyn hyn Thunder Bay) ar Lyn Superior, ac wedyn yn .ôl i fyny'r Saskatchewan ac i Lyn Caethwas Llai.

Dechreuodd o daith – efo'i deulu a teithwyr eraill o'r cwmni, ar draws y Mynyddoedd Rockies. Aethant i fyny Afon Ogledd Saskatchewan ac ar draws Bwlch Howse. Disgynnodd Afon Blueberry a chyraeddasant Afon Columbia ar 30 Mehefin 1807]]. Oherwydd bod yr afon yn llifo i'r Gogledd-ddwyrain yno, na sylweddodd o bod Afon Columbia oedd hi. Aethant i fyny'r afon i Lyn Windermere a treuliasant y gaeaf yn masnachu efo'r llwyth Kootenay. Treuliodd o'r blynyddoedd canlynol yn teithio'r ardal ac yn croesi'r Rockies, yn mynd â ffyrrau yn ôl i'r dwyrain. Ar diwedd 1811, croesodd y Rockies trwy Fwlch Athabasca lle saif Jasper, Alberta heddiw. Cyrhaeddodd Afon Columbia ar 18 Ionawr 1811.

Roedd hi'n anodd anfon ffyrrau yr holl ffordd dros y Rockies, felly aeth Thompson ac eraill i lawr Afon Columbia ac wedi cyrraedd y Cefnfor Tawel ar 3 Gorffennaf 1811. Dau fis yn gynharach, cyrhaeddodd llong yr Aber o'r cefnfor, ac wedi sefydlu gorsaf masnachu yn Astoria, Oregon gan Gwmni Pacific Fur. Roedden nhw wedi cael cynllun i gydweithio efo Cwmni'r Gogledd Orllewin, ond na chyflunwyd y gytundeb. Prynwyd yr orsaf masnachu gan y Cwmni'r Gogledd Orllewin ym 1813 am $40,000. Wythnos ar ôl cyrraedd Astoria, aeth o yn ôl i fyny'r afon, ac wedyn i fyny Afon Snake, ar y ffordd rhwng yr afonydd Snake a Spokane, lle adeiladodd o ganŵ, ac aeth i fyny'r Columbia hyd at Afon Canŵ ar ochr orllewinol Bwlch Athabasca. Roedd o wedi mapio Afon Columbia i gyd.

Ym 1812, aeth o ar draws y Rockies eto, ond erbyn roedd o wedi cyrraedd Llyn Superior, ac aeth o byth yn ôl i'r gorllewin eto. Roedd o 42 blwydd oed ac wedi trafeilio 55000 o filltiroedd ers cyrraedd Canada. Penderfynwyd gan y gwmni dylai fo orffen ei mapiau ar eu cyfer nhw ac yn cael ei dalu am wneud hyn. Priododd ei wraig Charlotte yn Eglwys Presbyteriaidd Stryd Sant Gabriel, Montreal ar 30 Hydref 1830; doedd 'na ddim eglwysi yn y gorllewin ar gyfer seremoni ffurfiol yn gynharach.

Symudodd y teulu i Williamstown, Ontario ym 1815 a gweiddiodd o dros Comisiwn Rhwngwladol Cyffiniau i sefydlu ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Gogledd America Prydeinig, rhwng Llyn y Coedwigoedd a Quebec.

Erbyn 1833 doedd ganddo ddim arian. Gofynnodd bod y llywodraeh Prydeinig yn cydnabod ei gwaith; derbynnodd dim ond £150 ar gyfer ei mapiau a gwybodaeth i gyd. Bu farw ar 10 Chwefror 1857, a chladdwyd ym Mynwent Mount Royal, Montreal[2].

Mae'r tiroedd a fapiwyd gan Thompson yn enfawr: 3.9 miliwn km sg - hynny yw un pumed rhan o'r cyfandir cyfan. Nododd cyd-fforiwr iddo, sef Alexander Mackenzie, fod Thompson yn medru mapio mwy o dir mewn deg mis nag oedd e'n medru ei wneud mewn dwy flynedd.

Yn 1957, can mlynedd wedi ei farwolaeth, cafodd ei anrhydeddu gan Lywodraeth Canada, drwy gyhoeddi llun ohono ar stamp a rhoddwyd yr enw David Thompson Highway ar un o brif ffyrdd Alberta i gofio am ei waith a galwyd ysgol David Thompson High School ar ei ôl yn Leslieville, Alberta. Cafodd hefyd ei alw'r 'cartograffydd mwyaf erioed.'"[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC Wales news report. Adalwyd 15 Chwefror 2015.
  2. "Erthygl gan J. ac A. Gottfred ar wefan 'North West Journal". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-06. Cyrchwyd 2015-03-31.
  3. David Thompson's narrative of his explorations in western America, 1784–1812 (golygwyd gan J.B. Tyrell)
  4. Aritha Van Herk, Travels with Charlotte, Canadian Geographic Magazine, Gorffennaf / Awst 2007