Deceangli

pobl Celtaidd a oeddent yn byw yn yr hyn a elwir heddiw yn ogledd-ddwyrain Cymru (a rhan o Swydd Gaer) yn Oes yr Haearn a'r Rhufeiniaid

Roedd y Deceangli neu Deceangi yn un o'r llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru yn Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Roedd y llwyth yn byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn ôl pob tebyg yn y tiriogaethau sy'n cyfateb i Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a rhannau o Sir Conwy a Sir Wrecsam heddiw.

Llwythau Cymru tua 48 O.C.. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Daeth y Rhufeiniaid i gysylltiad a'r llwythau Cymreig am y tro cyntaf tua 48 O.C. pan ymosododd llywodraethwr Prydain, Publius Ostorius Scapula ar y Deceangli. Nid ymddengys eu bod wedi gwrthwynebu rhyw lawer, yn wahanol iawn i'w cymdogion yr Ordoficiaid, yn y gorllewin, a'r Silwriaid yn y de. Ni wyddir am unrhyw dref yn eu tiriogaeth, ond efallai fod rhyw fath o dref yn bodoli o amgylch caer Rufeinig Canovium (Caerhun). Gall fod y gaer yma ar Afon Conwy yn nhiriogaeth y Deceangli, neu efallai ei bod yn gwarchod y ffin rhyngddynt hwy a'r Ordoficiaid, ynghyd â'r man croesi strategol ar yr afon.

Saif bryngaer sylweddol Pen y Corddin (ger Llanddulas, Sir Conwy), a godwyd yn Oes yr Haearn, yng ngogledd-orllewin tiriogaeth y Deceangli; cafwyd hyd i ddrylliau o grochenwaith Rhufeinig yno ac ymddengys hefyd iddi gael ei hatgyweirio yn y cyfnod Rhufeinig. Ar hyd yr arfordir i'r dwyrain ceir bryngaer Dinorben. Roedd yn cael ei phreswylio yn y cyfnod Rhufeinig a darganfuwyd crochenwaith a darnau arian yn dyddio o'r 3edd a'r 4g yno. Mae bryngaerau eraill ar diriogaeth dybiedig y Deceangli yn cynnwys Foel Fenlli, Moel Arthur a Moel Hiraddug.

Cedwir yr enw "Deceangli" fel "Tegeingl", y cantref canoloesol oedd yn cyfateb i ran helaeth o Sir y Fflint heddiw. Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o blwm gyda stamp DECEANG neu rywbeth tebyg arnynt, ac ymddengys fod y rhain yn deillio o diriogaeth y llwyth yma yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'n bosibl hefyd fod yr enw lle Degannwy yn deillio o'r enw Deceangli, er nad yw pob ieithydd yn cytuno.

Dolenni allanol golygu


  Llwythau Celtaidd Cymru  

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid