Deddfau Gwrachyddiaeth

Deddfau Gwrachyddiaeth

Bu nifer o Ddeddfau Gwrachyddiaeth yn hanesyddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon a oedd yn ceisio rheoli gwrachyddiaeth. Roedd cosbau llym am ei hymarfer neu, yn hwyrach, esgus bod yn ei hymarfer.

Deddf Gwrachyddiaeth 1542 golygu

Oherwydd tensiynau crefyddol yn y 16eg a'r 17eg canrifoedd, cyflwynodd Harri VIII, brenin Lloegr Ddeddf 1542 a gweithredu nifer o gosbau llym yn erbyn ymarfer gwrachyddiaeth. Y Ddeddf hon oedd y ddeddf gyntaf i ddiffinio gwrachyddiaeth yn ffeloniaeth, trosedd y gellid ei gosbi â marwolaeth, gan gynnwys atafaelu nwyddau ac eiddo'r person.[1] Yr oedd yn erbyn y gyfraith i:

... use devise practise or exercise, or cause to be devysed practised or exercised, any Invovacons or cojuracons of Sprites witchecraftes enchauntementes or sorceries to thentent to fynde money or treasure or to waste consume or destroy any persone in his bodie membres, or to pvoke [provoke] any persone to unlawfull love, or for any other unlawfull intente or purpose ... or for dispite of Cryste, or for lucre of money, dygge up or pull downe any Crosse or Crosses or by such Invovacons or cojuracons of Sprites witchecraftes enchauntementes or sorceries or any of them take upon them to tell or declare where goodes stollen or lost shall become ...[2]

Roedd y Ddeddf hon hefyd yn tynnu'r hawl i fraint clerigwyr am y rhai a gafodd eu heuogfarnu o wrachyddiaeth. Roedd yr hawl hon yn eich achub rhag cael eich crogi a oeddech yn gallu darllen paragraff o'r Beibl.[2] Diddymwyd y statud hon gan fab, Edward VI, ym 1547.[3]

Deddf Gwrachyddiaeth 1563 golygu

Daeth An Act Against Conjurations, Enchantments and Witchcrafts (5 Eliz. I c. 16) i rym yn ystod oes cynnar Elisabeth I. Teimlai rhai fod y Ddeddf hon yn fwy tosturiol tuag at y rhai a gafodd eu heuogfarnu na'r ddeddf gynt; defnyddiwyd y gosb eithaf lle achoswyd niwed yn unig; cosbwyd tramgwyddiadau llai drwy garcharu am gyfnod. Yn ôl y Ddeddf hon, byddai unrhyw a fyddai "use, practise, or exercise any Witchcraft, Enchantment, Charm, or Sorcery, whereby any person shall happen to be killed or destroyed", yn euog o ffeloniaeth heb fraint clerigwyr, a byddai'r person hwn yn crogi.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gibson 2006, t. 1
  2. 2.0 2.1 Gibson 2006, t. 2
  3. Brosseau Gardner 2004, t. 254
  4. Gibson 2006, tt. 3–4

Llyfryddiaeth golygu

  • Brosseau Gardner, Gerald (2004), The Meaning of Witchcraft, Red Wheel/Weiser, ISBN 978-1-57863-309-8
  • Gibson, Marion (2006), "Witchcraft in the Courts", in Gibson, Marion, Witchcraft And Society in England And America, 1550–1750, Continuum International Publishing Group, pp. 1–9, ISBN 978-0-8264-8300-3
  • Larner, Christine (1981), Enemies of God, ISBN 0-7011-2424-5

Darllen pellach golygu

  • John Newton and Jo Bath (gol.), Witchcraft and the Act of 1604 (Leiden: Brill, 2008)
  • P G Maxwell-Stuart, The Great Scottish Witch-Hunt (Stroud: Tempus, 2007)