Deddfau mudiant planedau Kepler

Yn seryddiaeth, Deddfau mudiant planedau Kepler yw:

  1. "Mae orbit pob planed yn elíps efo'r haul ar un ffocws."
  2. "Mae'r fector radiws sy'n cysylltu planed efo'r haul yn ysgubo yr un arwynebedd sydd â chyfnodau hafal o amser: felly mae'r blaned yn cyflymu wrth i'r grym disgyrchiant gryfhau yn agos i'r haul."[1]
  3. "Mae sgwar cyfnod orbital planed mewn cyfrannedd union i giwb yr echelin hwyaf.
Yn symbolaidd:-
sef:-
lle mae:-
T yn amser cyfnodol i corff teithio mewn orbit cyfan o amgylch corff arall.
r yn radiws
G yn cysonyn disgyrchiant
M yn mas y corff canolog
Llun orbit elíps yn dangos y ffocysau.
Llun elíps yn dangos yr echelin hwyaf a'r echelin lleiaf.
Mae arwynebedd y ddwy ardal yn hafal oherwydd mae mudiant y blaned yn cyflymu wrth i'r grym disgyrchiant gryfhau yn agos i'r haul

Cafodd y tair deddf fathemategol yma eu darganfod gan y mathemategydd a seryddwr Almaenig Johannes Kepler (1571–1630), a ddefnyddiodd y deddfau hyn i ddisgrifio mudiant y planedau yng nghysawd yr haul. Mae'r deddfau yn disgrifio mudiant unrhyw ddau gorff yn cylchdroi.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Kepler's Second Law" gan Jeff Bryant gyda Oleksandr Pavlyk, Wolfram Demonstrations Project.