Gwleidydd o'r Alban yw Deidre Brock (ganwyd 23 Tachwedd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Caeredin a Leith; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin. Mae Deidre'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Deidre Brock
Deidre Brock


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2022
Rhagflaenydd Mark Lazarowicz
Y Blaid Lafur

Geni (1961-11-23) 23 Tachwedd 1961 (62 oed)
Gorllewin Awstralia
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Gogledd Caeredin a Leith
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Ganwyd Brock yng Ngorllewin Awstralia a magwyd hi yn Perth. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Curtin ac actio yn Academi Perfformio a Chelfyddyd, Awstralia. Cymerodd ran yn yr opera sebon boblogaidd Home and Away. Wedi gwyliau yn Awstralia yn 1996, penderfynodd symud i fyw yno.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Deidre Brock 23742 o bleidleisiau, sef 40.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.3 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5597 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  2. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban