Demetae

llwyth Celtaidd adeg yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid

Roedd y Demetae yn llwyth Celtaidd adeg yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Roedd eu tiriogaeth yn ne-orllewin Cymru, yn cyfateb yn fras i Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Ceredigion.

Llwythau Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal tua 48 O.C. nid ymddengys fod y Demetae wedi gwrthwynebu rhyw lawer. Nid oes cofnod o'r Rhufeiniaid yn ymladd yn eu herbyn, yn wahanol iawn i'w cymdogion, y Silwriaid i'r dwyrain a'r Ordoficiaid i'r gogledd. Sefydlwyd canolfan i'r llwyth ym Maridunum (neu Moridunum: Caerfyrddin heddiw), lle mae cloddio wedi datgelu tref fechan yn ogystal a'r gaer Rufeinig.

Rhoddodd y llwyth ei enw i deyrnas Dyfed yn nes ymlaen, er bod y Ddyfed hanesyddol yn llai na thiriogaeth y llwyth. Efallai fod gan y llwyth gysylltiadau ag Iwerddon; yn sicr yr oedd teulu brenhinol teyrnas Dyfed yn nes ymlaen o dras Gwyddelig, ac mae nifer fawr o arysgrifau Ogam mewn Gwyddeleg wedi eu darganfod yn yr ardal yma, er fod y rhain yn deillio o'r cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid. Roedd teyrnas Deheubarth, a ffurfiwyd yn llawer diweddarach, yn cyfateb yn agos i ffiniau'r llwyth yma.


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid