Dennis Potter

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Berry Hill yn 1935

Roedd Dennis Christopher George Potter (17 Mai, 19357 Mehefin, 1994) yn newyddiadurwr a dramodydd Seisnig.[1]

Dennis Potter
Ganwyd17 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Berry Hill Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 1994 Edit this on Wikidata
Rhosan ar Wy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg Newydd
  • St Clement Danes School
  • Ark Burlington Danes Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, cyfarwyddwr theatr, ysgrifennwr, sgriptiwr, newyddiadurwr, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPennies from Heaven Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Edgar Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://intranet.yorksj.ac.uk/potter Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Potter yn Joyford Hill, Fforest y Ddena Swydd Gaerloyw yn blentyn i Walter Edward Potter, Glowr a Margaret Constance, (née Wale), ei wraig . Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Coleford hyd 1949 ac wedi i'r teulu symud i Lundain ym 1949 yn Ysgol St Clement Danes. Wrth aros yn Llundain gyda'i daid mamol ym 1945 bu raid i Dennis rhannu gwely gyda'i ewyrth Ernie, brawd ei fam. Roedd ei ewyrth yn ei gam-drin yn rhywiol. Digwyddiad byddai'n cyfeirio ato'n aml fel oedolyn. Wedi cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn yr adran cudd-wybodaeth o 1953 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1953 lle enillodd gradd BA mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.[2]

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r coleg aeth i'r BBC i hyfforddi i fod yn newyddiadurwr ar gyfer y radio a'r teledu. O'r BBC aeth i weithio fel beirniad teledu ar y papur dyddiol the Daily Herald (rhagflaenydd The Sun). Parhaodd ei gysylltiad efo'r byd darlledu trwy ddramateiddio darnau o nofelau cyfoes ar gyfer y gyfres Bookstand a thrwy sgwennu sgetshis i'r rhaglen ddychan materion cyfoes That Was The Week That Was.[3]

Ym 1962 cafodd ei daro'n wael gan psoriatic arthropathy, cyflwr llethol a gwanychol sy'n achosi echdoriadau a phlicio'r croen a pharlys yn y cymalau.[4]

Yn Etholiad Cyffredinol 1964 safodd Potter fel yr ymgeisydd Lafur yn etholaeth Gorllewin Swydd Hertford, ond ni fu'n llwyddiannus Yn fuan wedyn penderfynodd rhoi'r gorau i'w yrfa fel newyddiadurwr ac i droi'n dramodydd teledu llawn amser. Cafodd ei ddramâu cynharaf eu darlledu fel rhan o'r cyfresi Wednesday's Play a Play for Today. Roedd y dramâu yn cynnwys Stand Up, Nigel Barton [5] a Vote, Vote, Vote for Nigel Barton,[6] comedïau trasig am ymgyrch etholiadol ymgeisydd Llafur ifanc.[7]

O herwydd cyflwr ei iechyd doedd Potter ddim yn gallu defnyddio teipiadur i ysgrifennu. Bu'n rhaid iddo sgwennu ei ddramâu i gyd efo ysgrifbin wedi dal yn sownd yn ei ddwrn arthritig. Er hynny llwyddodd i ysgrifennu nifer fawr o ddramâu llwyddiannus.[1]

Enillodd wobr drama’r flwyddyn yr Undeb Darlledu Ewropeaidd a gwobr Urdd yr Awduron, am Son of Man (1969). Ond nid oedd pawb yn hoff o'r ddrama a oedd yn ddehongliad agnostig o'r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth Crist. Gan ei fod yn cynrychioli Iesu fel un llawn pryder a hunan amheuaeth [8] galwodd Mary Whitehouse o Gymdeithas Genedlaethol y Gwylwyr a’r Gwrandawyr am ei erlyn am y drosedd o gabledd.[9] Enillodd ei ddramâu Pennies from Heaven a Blue Remembered Hills gwobrau BAFTA am eu sgriptiau. Ei ddrama deledu fwyaf llwyddiannus o ran nifer y gwylwyr teledu oedd The Singing Detective (1986). Mae'r prif gymeriad yn ddramodydd sy'n dioddef o psoriasis ac yn mynd trwy daith o hunan ddarganfod.[10] Roedd Potter yn gwadu bod y ddrama yn hunangofiannol.

Teulu golygu

Ym 1959 priododd Margaret Amy Morgan, bu iddynt fab a ddwy ferch.[11] Bu eu ferch Sarah yn chwarae criced rhyngwladol i dîm Lloegr.[12] Ym 1967 symudodd y teulu yn ôl i fro enedigol Potter gan ymgartrefu yn Rhosan ar Wy.

Marwolaeth golygu

Ym 1993 cafodd Margaret Potter gwybod bod ganddi ganser y fron a byddai'n annhebygol y byddai'n byw am ragor na 3 mlynedd. Ym 1994 cafodd Denis gwybod bod ganddo ef canser hefyd yn ei bancreas a'i afu ac nid oedd yn debygol o fyw rhagor na 3 mis. Bu farw Potter yn ei gartref ar 7 Mehefin, yn 59 mlwydd oed,[13] naw diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth ei wraig. Amlosgwyd y ddau, a chladdwyd eu lludw ym mynwent Rhosan.[1]

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth Dennis Potter

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Potter, Dennis Christopher George (1935–1994), journalist and playwright | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-10-31.
  2. "Dennis Potter". The Telegraph. 1994-06-07. ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-18. Cyrchwyd 2019-10-31.
  3. Humphrey Carpenter; That Was Satire That Was: The Satire Boom in the 1960s, Llundain, 2000, tud. 232
  4. "Dennis Potter; between two worlds; a critical reassessment". www.worldcat.org. Cyrchwyd 2019-10-31.
  5. "BFI Screenonline: Stand Up, Nigel Barton (1965)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
  6. "BFI Screenonline: Vote, Vote, Vote, for Nigel Barton (1965)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
  7. Cook, John R. (1995). Dennis Potter : a life on screen. Manceinion: Gwasg Brifysgol Manceinion. ISBN 0719046017. OCLC 32013821.
  8. Fisher, Mark (2006-09-24). "Son of Man". Variety. Cyrchwyd 2019-10-31.
  9. Thompson, Ben (2012). Ban this filth! : letters from the Mary Whitehouse archive. London: Faber. ISBN 0571281508. OCLC 930024245.
  10. "The Singing Detective: 25 years on | Sight & Sound". British Film Institute. Cyrchwyd 2019-10-31.
  11. "Obituary: Dennis Potter". The Independent. 1994-06-08. Cyrchwyd 2019-10-31.
  12. "Sarah Potter". Cricinfo. Cyrchwyd 2019-10-31.
  13. Hebert, Hugh (1994-06-07). "Programmes from heaven - Dennis Potter's death". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-31.