Derec Llwyd Morgan

academydd Prydeinig

Bardd Cymraeg a beirniad llenyddol yw Derec Llwyd Morgan (ganed 15 Tachwedd 1943). Mae'n enedigol o bentref Cefn-bryn-brain, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Rhydychen. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1969 hyd 1975, pan symudodd i'r Adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Dyrchafwyd ef yn Ddarllenydd (1983–1989). Bu'n Athro’r Gymraeg ac yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd 1995, pan benodwyd ef yn Brifathro’r Coleg. Ymddeolodd yn 2004.[1]

Derec Llwyd Morgan
Ganwyd15 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.

Cyhoeddiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Awduron Cymru - Derec Llwyd Morgan. Llenyddiaeth Cymru.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.