Derek Boote

Canwr ac actor o Gymro

Roedd Derek Jon Boote yn ganwr ac actor Cymraeg (13 Rhagfyr, 1942 [1]29 Tachwedd 1974).[2][3][4]

Derek Boote
Ganwyd13 Rhagfyr 1942 Edit this on Wikidata
Gaerwen Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1974 Edit this on Wikidata
Cas-gwent Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, canwr Edit this on Wikidata

Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yng Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd.

Gyrfa golygu

Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda Endaf Emlyn o'r enw Yr Eiddoch yn Gywir. Cystadlodd Boote yn nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971. Bu iddo ymddangos ar gyfres canu poblogaidd Hob y Deri Dando yn 1964.[5]

Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a Ronnie Williams), gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.[6]

Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Singing Barn (1969) a The Singing Barge (1974).[7]

Yn 1969 ymddangosodd gyda Hywel Gwynfryn, Olwen Rees a Heulwen Haf yn Gwendid ar y Lleuad, rhaglen deledu gomedi a ddisgrifwyd fel "sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc". Mae erthygl ar wefan BBC Cymru yn dweud fod deiseb wedi ei drefnu yn erbyn yn y rhaglen, yn cwyno ei fod yn "anweddus" a bod y rhaglen wedi ei atal ar ôl tair pennod.[8] Mae archif BBC Genome, sy'n tarddu o gofnodion y Radio Times yn dangos fod chwe pennod wedi ei amserlennu rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 1969.[9]

Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.[10]

Athro golygu

Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.

Marwolaeth golygu

Bu farw Boote ym 1974 mewn ysbyty yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain annisgwyl ac anffodus. Ym mis Hydref 1974, roedd yn ffilmio rhaglen i blant, Maldwyn Aldwyn yn stiwdio'r BBC yn Llandaf.[11][12]. Yn ystod egwyl roedd yn ysmygu yn ei stafell newid pan aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigarét arni,[13] a chafodd ei losgi’n ddifrifol. Bu farw rhai wythnosau yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.[13][14]

Disgograffi golygu

  • Byw yn Rhydd, Recordiau'r Dryw, 1968.[15] Cynnwys y caneuon, Byw'n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm. Mae'r clawr yn cynnwys logo adnabyddus Recordiau'r Dryw a Derek.[16]

Dolenni golygu

Cyferiadau golygu

  1. Swyddfa Gofrestru Gyffredinol; Cymru a Lloegr, Mynegai Cofrestru Sifil Marwolaethau, 1916-2007; Hydref-Rhagfyr 1974 Ardal Gofrestru: Casnewydd. Cyfrol: 28 Tudalen: 0258. Derek Jon Boote.
  2. Calendr Grantiau Profiant a Llythyrau Gweinyddu yng Nghofrestrfeydd Profiant yr Uchel Lys Cyfiawnder 1975.
  3. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Chwefror 2021.
  4. British Broadcasting Corporation (1976). BBC Handbook. British Broadcasting Corporation. t. 113.
  5. "Hob Y Deri Dando". PROGRAMME INDEX y BBC o'r Radio Times gwreiddiol. 25 Rhagfyr 1964.
  6. Great Britain. Parliament. House of Commons (1971). Sessional Papers. H.M. Stationery Office. t. 197.
  7. https://www.imdb.com/name/nm9842672/
  8.  Cofio - Dyma 1969. BBC Cymru. Adalwyd ar 20 Chwefror 2021.
  9.  Gwendid Ar Y Lleuad. BBC Genome.
  10. "Byw'n Rhydd". Discogs. Cyrchwyd 15 July 2020.
  11.  BBC Handbook 1976. BBC (1975). Adalwyd ar 20 Chwefror 2021.
  12. https://twitter.com/Adesbwthyn/status/1363077639389462530
  13. 13.0 13.1 Gareth Price (12 January 2018). Broadcasters of BBC Wales. Y Lolfa. t. 202. ISBN 978-1-78461-535-2.
  14. John Davies (1994). Broadcasting and the BBC in Wales. University of Wales Press. t. 360. ISBN 978-0-7083-1273-5.
  15. https://www.discogs.com/Derek-Boote-Bywn-Rhydd/release/10663963
  16. https://twitter.com/ffaroutblog/status/1362850668789325833