Derren Brown

sgriptiwr ffilm a aned yn Purley yn 1971

Mae Derren Victor Brown (ganed 27 Chwefror 1971) yn gonsurwr, lledrithiwr seicolegol, meddyliaethwr, peintiwr a amheuwr hunan-gydnabyddedig pan mae'n dod i ffenomena goruwchnaturiol. Cafodd ei eni yn Croydon, De Llundain ac astudiodd y Gyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Bryste. Tra'n astudio yno, mynychodd sioe gan yr hypnotydd Martin Taylor a chafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn hypnosis a lledrith. Pan oedd yn îs-raddedig, dechreuodd weithio fel consurwr, gan ddefnyddio'r sgiliau traddodiadol o hud agos-atoch. Ym 1996 dechreuodd berfformio sioeau llwyfan hypnosis ym Mhrifysgol Bryste o dan ei enw llwyfan Darren V.Brown.

Derren Brown
Ganwyd27 Chwefror 1971 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylPurley, Marylebone Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyflwynydd teledu, sgriptiwr, dewin, arlunydd, cynhyrchydd ffilm, actor, hypnotist, lledrithiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, Laurence Olivier Award for Best Entertainment Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://derrenbrown.co.uk Edit this on Wikidata

Mae Brown hefyd wedi cynnal perfformiadau sy'n ymwneud â darllen meddyliau. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd Brown ei gomisynnu i greu peilot ar gyfer ei gyfres deledu Sianel 4, Mind Control.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.