Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Derry (Gwyddeleg: Doire[1] neu Doire Cholm Chille) neu Londonderry. Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir. Fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".

Deri
Mathdinas, tref ar y ffin Edit this on Wikidata
Poblogaeth85,016 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Derry
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd387 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Foyle Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.9917°N 7.3417°W Edit this on Wikidata
Cod postBT47, BT48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholDerry City and Strabane District Council Edit this on Wikidata
Map

Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Canolfan Amelia Earhart
  • Eglwys Gadeiriol Sant Columb
  • Eglwys Gadeiriol Sant Eugene
  • Guildhall

Chwaraeon golygu

Pobl o Derry golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.