Derwen-gam

pentref yng Ngheredigion

Pentref yng nghymuned Henfynyw, Ceredigion, Cymru, yw Derwen-gam, hefyd Derwen Gam (Saesneg: Oakford). Saif ar ffordd gefn i'r de o Aberaeron.

Derwen-gam
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHenfynyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1984°N 4.2679°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Hanes golygu

Sefydlwyd y pentref gan Morgan Evans, mab Thomas Evans o fferm Pontbrenddu, pan adeiladodd siop Rhydgwinllanau yn ystod y 1860au i wasanaethu'r ardal. Adeiladwyd hefyd rhes o fythynod i gartrefu crefftwyr a oedd yn darparu nwyddau i'w gwerthu yn y siop.

Rhoddwyd cryn sylw i'r pentref ar ddechrau'r 1970au pan fu farw disgynydd i Morgan Evans a rhoddwyd cyfran helaeth o'r eiddo ar werth, gan ail-leoli'r tenantiaid ym mhentref cyfagos Llwyncelyn. Gwerthwyd nifer o'r tai i'w defnyddio fel tai haf [3]. Coffhawyd y sefyllfa yn ddiweddarach mewn cân brotest gan Edward H Dafis.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.