Deutsche Welle

gwasanaeth newyddion ryngwladol Almaeneg (a 30+ iaith) ar radio, teledu, ac ar-lein

Mae Deutsche Welle, talfyriad DW, yn ddarlledwr Almaeneg, rhyngwladol ganolog ac yn cymryd rhan yn y sefydliad darlledu cyhoeddus ARD. Mae Deutsche Welle yn cynnwys gorsaf radio, sianel deledu, gwefan mewn ddeg ar hugain o ieithoedd a chwrs hyfforddi newyddiadurol. Nod Deutsche Welle yw hyrwyddo'r Almaen fel gwladwriaeth gyfansoddiadol ddemocrataidd sydd wedi'i gwreiddio yn Ewrop, wedi'i chreu'n rhydd, a hyrwyddo dealltwriaeth a chyfnewid rhwng diwylliannau a phobloedd[1] gan hefyd cynhyrchu sylw newyddion dibynadwy, darparu mynediad i'r iaith Almaeneg, a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl.[2]

Logo Deutsche Welle ers 2012
Deutsche Welle
Enghraifft o'r canlynoly cyfryngau torfol, darlledwr, gorsaf deledu, public-law institution Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Mai 1953 Edit this on Wikidata
PerchennogARD Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolARD, German Media Council, Informations-Verarbeitungs-Zentrum, Comisiwn UNESCO yr Almaen, Undeb Darlledu Ewropeaidd, ITU Telecommunication Standardization Sector Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolpublic-law institution Edit this on Wikidata
PencadlysSchürmann-Bau Edit this on Wikidata
Enw brodorolDeutsche Welle Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dw.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhyngwladol golygu

Sianel newyddion yw DW (TV) sy'n darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg, Dari a Pashto. Gellir clywed DW (Radio) mewn 31 o wahanol ieithoedd. Mae DW.de ar gael mewn 30 iaith ledled y byd. Mae'r DW-Akademie yn cynnig hyfforddiant ac addysg bellach proffesiynau cyfryngau i bobl o bob cwr o'r byd.

Mae Deutsche Welle wedi bod yn darlledu'n rheolaidd ers 1953. Hyd at 2003, roedd yr orsaf wedi'i lleoli yn ninas Cwlen, ac ar ôl hynny symudodd i Bonn (DW (Radio), DW Akademie, DW.de). Mae'r pencadlys teledu ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin. Mae swyddfeydd ym Mrwsel, Mosgo, a Washington. Mae rhwydwaith o newyddiadurwyr parhaol a llawrydd yn gyfrifol am newyddiadura ar ran yr orsaf.

Er 2004 mae Deutsche Welle yn trefnu'r etholiad gweflog blynyddol 'Best of the Blogs'.[3]

Staff golygu

O 2019 ymlaen, roedd tua 1,500 o weithwyr a 1,500 o weithwyr llawrydd o 60 gwlad yn gweithio i Deutsche Welle yn ei swyddfeydd yn Bonn a Berlin.[2]

Cronoleg golygu

 
Logo Deutsche Welle (1995-2003)
  • 1924 - sefydlu Deutsche Welle GmbH, yn Berlin
  • 1953 - ailddechreuodd Deutsche Welle weithredu ar ôl yr Ail Ryfel Byd
  • 1955 - dechrau cynhyrchu rhaglenni yn Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg
  • 1990 - Ailuno'r Almaen - Gydag ailuno'r Almaen ym 1990, peidiodd gwasanaeth darlledu rhyngwladol Dwyrain yr Almaen, a alwyd yn Radio Berlin International (RBI), ddarlledu. Ymunodd rhai o staff yr RBI â Deutsche Welle ac etifeddodd DW rai cyfleusterau darlledu, gan gynnwys cyfleusterau darlledu yn Nauen, yn ogystal ag amleddau RBI.
  • 1994 - ym mis Medi 1994, Deutsche Welle oedd y darlledwr cyhoeddus cyntaf yn yr Almaen gyda phresenoldeb ar y rhyngrwyd, a'r cyfeiriad i ddechrau oedd www-dw.gmd.de, a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Technoleg Gwybodaeth GMD.

Ieithoedd Darlledu golygu

 
Lleoliad Deutsche Welle yn Bonn, 2014
 
Amserlen ddarlledu Deutsche Welle, Awst 1993
 
Gorsaf fesur a derbyn yn Hückeswagen-Bockhacken
 
Swyddfa olygyddol radio Arabeg Deutsche Welle yn Cwlen. Llefarydd rhaglen Arabeg wrth ei waith
Iaith Cychwyn Dod i ben Sylwadau
Almaeneg 1953[4] TV
Saesneg * 1954[4] Radio & TV
Ffrangeg * Radio
Sbaeneg TV
Portiwgaleg Radio
Arabeg 1959[5] TV
Farsi 1962[6]
Twrceg
Rwsieg
Pwyleg *
Tsieceg * 2000[7]
Slofaceg * 2000[7]
Hwngareg * 2000[7]
Serbo-Croateg * 1992[8]
Swahili 1963[6] Radio
Hausa Radio
Indoneseg (Malay)
Bwlgareg
Rwmaneg *
Slofeneg 2000
Groegeg 1964[6] Radio
Hindi
Bengali
Urdu
Eidaleg * 1998[9]
Tsieinieg 1965[10]
Amhareg Radio
Sanskrit 1966 1998
Japaneg 1969[10] 2000[7]
Macedoneg
Pashto 1970[11] Radio
Dari Radio
Serbeg 1992[8]
Croateg
Albaneg
Bosnieg 1997[9]
Daneg * 1965 1998[9]
Norwyeg *
Swedeg *
Iseldireg * 1967
Wcreineg 2000[7]
Belarwsieg 2005[12] before 2011

 * yn rhannol gan Deutschlandfunk (tan 1993)

Cyfeiriadau golygu

  1. {{{1}}}
    Bundesministerium der Justiz und für Verbraucherschutz. Gesetz über die Rundfunkanstalt des Bundesrechts "Deutsche Welle", 11 januari 2005.
  2. 2.0 2.1 "Profile DW". Deutsche Welle. Cyrchwyd 5 July 2015.
  3. (Saesneg) DW. The Bobs[dolen marw]Nodyn:Dode link, Best of Online Activism
  4. 4.0 4.1 "1950–1954". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  5. "1955–1959". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  6. 6.0 6.1 6.2 "1960–1964". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 "2000–2005". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  8. 8.0 8.1 "1990–1994". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  9. 9.0 9.1 9.2 "1995–1999". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  10. 10.0 10.1 "1965–1969". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  11. "1970–1974". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  12. "Broadcasting Democracy to Belarus". Belarus Digest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2014. Cyrchwyd 15 May 2015.

Dolenni allanol golygu