Dewiniaeth sympathetig

Mae dewiniaeth sympathetig, hefyd a elwir yn dewiniaeth ddynwaredol, yn fath o ddewiniaeth a seilir ar ddynwarediad neu gyfatebiaeth.

Dynwarediad a dewiniaeth sympathetig golygu

Mae dynwarediad yn cynnwys defnyddio arddelwau, eilunod neu bopedi er mwyn effeithio amgylchedd pobl, neu bobl eu hun ar adegau. Mae doliau fwdw'n enghreifftiau o bopedi a ddefnyddir yn y ffordd hon.

Dewiniaeth sympathetig mewn meddwl hynafol golygu

Ymddengys dewiniaeth sympathetig i fod yn elfen sylweddol o feddylfryd hynafol neu fytholegol: mae llawer o gymdeithasau traddodiadol yn credu y gall yr effaith ar un gwrthrych achosi effaith gydweddol ar wrthrych arall, heb unrhyw ddolen achosol amlwg rhwng y ddau wrthrych. Er enghraifft, mae llawer o chwedlau gwerin yn cynnwys direidyn a chanddo "bywyd" sy'n bodoli mewn gwrthrych arall, ac fel canlyniad ni ellir ei ladd heb ddinistrio'r gwrthrych arall hwnnw. Yn Wganda, credir bod gwraig hesb yn achosi gardd anffrwythlon, a gall ei ŵr ceisio ysgariad am resymau economaidd. Yn ei lyfr The Golden Bough dadleuodd Syr James Frazer fod y cred mewn dewiniaeth sympathetig yn un o'r stadau mwyaf cyntefig mewn meddwl dynol, sy'n cael ei ddilyn gan grefydd ac, wedyn, gwyddoniaeth. Er nad yw damcaniaethau Frazer yn cael eu rhannu gan y gymuned wyddonol yn gyffredin, mae'n amlwg bod dewiniaeth sympathetig yn gred hynafol ar led.

Tystiolaeth o ddewiniaeth sympathetig mewn paentiadau ogof Oes y Cerrig golygu

Mae'r term yn cael ei ddefnyddio'n amlaf mewn archaeoleg mewn cyswllt â phaentiadau ogof Baleolithig fel y rhai ym mryniau Tassili a Hoggar yng Ngogledd Affrica a Lascaux yn Ffrainc. Mae'r ddamcaniaeth yn un am ymddygiad dynol cyntefig, wedi ei seilio ar astudiaethau ar gymdeithasau hela a chasglu modern. Y syniad yw bod y paentiadau wedi cael eu creu gan ddewiniaid Cro-Magnon. Byddai'r dewin yn cilio i mewn i dywyllwch yr ogofâu, mynd i mewn i stad perlewyg ac wedyn paentio delweddau o'i weledigaethau, efallai gyda'r syniad o dynnu pŵer allan o furiau'r ogofâu eu hun. Byddai hynny i raddau'n esbonio pellenigrwydd rhai o'r paentiadau (sydd yn aml wedi cael eu paentio mewn ogofâu bach neu ddwfn) ac amrywiaeth eu cynnwys (o ysglyfaeth i ysglyfaethwyr a phrintiau llaw ddynol). Serch hynny, fel yn achos cynhanes i gyd, mae'n amhosib fod yn sicr oherwydd y diffyg tystiolaeth faterol.

Cyfeiriadau golygu

  • Campbell, Joseph (1991). The Masks of God: Primitive Mythology. Penguin Books. ISBN 0-14-019443-6

  • Eliade, Mircea (1976). gol. Wendell C. Beane and William G. Doty: Myths, Rites, Symbols: A Mircea Eliade Reader. Efrog Newydd: Harper & Row

  • Frobenius, Leo (1993). Kulturgeschichte Afrikas. Prolegomena zu einer historischen Gestaltlehre (A Cultural History of Africa) (yn Almaeneg). Zurich: Phaidon-Verlag

Dolenni allanol golygu