Diarmuid Mac Murchadha

Brenin Leinster yn Iwerddon oedd Diarmaid Mac Murchadha neu Diarmuid Mac Murchadha Caomhánach, Saesneg: Dermot MacMurrough (1110 - 1 Mai 1171). Bu ganddo ran allweddol yng nghoncwest Iwerddon gan y Normaniaid.

Diarmuid Mac Murchadha
Diarmuid Mac Murchadha fel y'i darlunnir mewn llawysgrif o Expugnatio Hibernica gan Gerallt Gymro (tua 1189)
Ganwyd1110 Edit this on Wikidata
Laighin Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1171 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Leinster Edit this on Wikidata
TadDonnchad mac Murchada Edit this on Wikidata
MamOrlaith Edit this on Wikidata
PriodMór Ní Tuathail Edit this on Wikidata
PlantAoife MacMurrough, Domhnall Caomhánach, Urlachan MacMorrough Edit this on Wikidata

Ganed Mac Murchadha yn 1110, yn fab i Donnchadh, brenin Leinster a Dulyn. Daeth yn frenin Leinster pan fu farw ei frawd hynaf. Yn 1166, gyrrwyd ef o'i deyrnas gan Tairrdelbach mac Ruaidri Ua Conchobair, Uchel Frenin Iwerddon gyda chymorth Tigernán Ua Ruairc. Aeth Diarmuid i Loegr i ofyn cymorth y brenin Henri II.

Nid oedd Henri yn barod i'w gynorthwyo yn bersonol, ond gyrrodd ef at farwniaid y Mers. Roeddynt hwy'n awyddus i gymeryd rhan yn yr ymgyrch gan fod grym cynyddol Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth yn golygu nad oedd lawer o obaith iddynt ychwanegu at eu meddiannau yng Nghymru. Aeth y rhan gyntaf o'r fyddin drosodd i Iwerddon yn 1169, ac ymunodd yr arweinydd, Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro, a hwy yn Awst 1170. Cipiwyd Wexford, Waterford a Dulyn, a'r diwrnod ar ôl cipio Waterford, priododd Richard de Clare ferch Diarmuid, Aoife o Leinster.

Bu farw mab Diarmuid, Domhnall, a bu farw Diarmuid ei hun yn fuan wedyn yn 1171, gyda'r canlyniad i de Clare etifeddu ei deyrnas. Roedd Harri II yn bryderu y gallai de Clare adeiladu teyrnas Normanaidd a allai fod yn beryglus iddo ef, fel daeth ef a byddin i Iwerddon i'w meddiannu.