Diwrnod pan nad ydy penblwydd ydy dibenblwydd (o'r Saesneg nbirthday). Bathwyd y term gan Lewis Carroll yn Through the Looking Glass.[1][2] Yn y ffilm animeiddiad Alice in Wonderland a wnaed yn 1951 gan Disney, cafwyd cân gyfan ar hyn, sef "The Unbirthday Song".[3]

Humpty Dumpty yn gwisgo crafát a gafodd yn anrheg dibenblwydd gan y Brenin Gwyn a'r Frenhines Wen. Mae'r darlun gan John Tenniel.

Yn Through the Looking-Glass, mae Humpty Dumpty yn gwisgo crafát (y mae Alice ar y dechrau yn ei gamgymryd am wregys) y dywed iddo ei gael yn "anrheg heb ben-blwydd" gan y Brenin Gwyn a'r Frenhines Wen. Yna mae'n gofyn i Alice gyfrifo nifer y pen-blwyddi mewn blwyddyn.[4]

Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer o benblwyddi a dibenblwyddi yn y flwyddyn:

Blynyddoedd naidBlynyddoed eraill
i berson y gafodd ei eni ar 29 Chwefror 1 penblwydd
365 o dibenblwyddi
heb penblwydd
365 o dibenblwyddi
i berson y gafodd ei eni ar ddiwrnod arall 1 penblwydd
365 o ddibenblwyddi
1 penblwydd
364 o ddibenblwyddi

Cyfeiriadau golygu

  1. Lewis Carroll (1871). Through the Looking-Glass. Pennod VI, "Humpty Dumpty", ac a sillafwyd fel "un-birthday".
  2. Oxford English Dictionary cyfr. 10/1 (1926). t. U63 (t. 645 o'r fersiwn electronig).
  3. "A Very Merry Unbirthday to You". Adalwyd 20 Medi 2008.
  4. Carroll, Lewis (1872). Through the looking-glass, and what Alice found there. London: Macmillan and Co. tt. 121–123.