Dictionnaire de l'Académie française

Geiriadur Ffrangeg awdurdodol a gyhoeddir gan yr Académie française yn Ffrainc ac sy'n cynrychioli un o brif oruchwylion y sefydliad hwnnw yw'r Dictionnaire de l’Académie française (Geiriadur yr Academi Ffrengig). Cyhoeddwyd argraffiadau newydd diwygiedig, ar ôl proses hir o drafod ac ymgynghori, yn 1694, 1718, 1740, 1762, 1798, 1835, 1878, 1935. Ysgrifennwyd y rhagymadrodd i'r argraffiad cyntaf gan y llenor Charles Perrault. Mae'r nawfed argraffiad yn cael ei baratoi ers 1992, ond hyd yn hyn dim ond y rhannau A-Emz a Éoc-Map sydd wedi dod allan.

Dictionnaire de l'Académie française
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, collective work Edit this on Wikidata
AwdurAcadémie française Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Genregeiriadur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Argraffiad 1835 o'r Geiriadur

Dyma eiriadur "swyddogol" yr iaith Ffrangeg. Yn wahanol i eiriaduron disgrifiadol fel Le Robert neu'r Petit Larousse, sy'n ceisio disgrifio cyflwr yr iaith fel y mae'n cael ei defnyddio ar lafar a'i hysgrifennu yn gyfoes, mae'r Dictionnaire de l’Académie française yn ceisio cadw yr iaith Ffrangeg lenyddol fel y dylai gael ei hysgrifennu (a'i siarad). Gellid dweud felly mai ei swyddogaeth yw cadw "purdeb" yr iaith.

Dolenni allanol golygu