Mae diffyg anadl, a elwir hefyd yn ddyspnea, yn teimlo fel na allwch anadlu'n ddigon da. Mae llawer o bethau yn gallu achosi diffyg anadl, ac nid problemau yn eich ysgyfaint sy'n gyfrifol am bob un.

Achosion golygu

Mae yna 2 prif categori o diffyg andal, sef diffyg anadl aciwt neu dymor byr sydd yn ddigwydd yn sydyn, a ddiffyg anadl dyddiol hirdymor, sy’n cael ei alw’n gronig yn y byd meddygol.

Diffyg anadl aciwt golygu

  • Pwl o asthma. Efallai bod eich brest yn dynn neu’n gwichian, yn hytrach na’ch

bod chi’n teimlo allan o wynt.

  • Pwl o COPD. Efallai eich bod chi’n teimlo mwy allan o wynt a blinedig na’r arfer a’ch bod chi methu rheoli eich diffyg anadl cystal ag o’r blaen.
  • Emboledd yr ysgyfaint. Sef clotiau yn rhydwelïau’r ysgyfaint sydd wedi teithio o rannau eraill o’ch corff, fel arfer eich coesau a’ch breichiau. Gall y clotiau hyn fod yn fach iawn ac achosi diffyg anadl aciwt. Gall mwy o glotiau gael eu rhyddhau dros amser hir ac achosi i’ch diffyg anadl fynd yn waeth – yn y pendraw, fe fyddwch chi’n colli’ch gwynt pob diwrnod yn hirdymor.
  • Heintiau ar yr ysgyfaint fel niwmonia a broncitis.
  • Niwmothoracs, sef ysgyfaint sydd wedi datchwyddo (collapsed lung).
  • Oedema yr ysgyfaint neu dywalltiad hylif yn eich ysgyfaint. Gall hyn fod oherwydd fod eich calon yn methu pwmpio hylif yn effeithlon neu oherwydd clefyd yr afu, canser neu haint. Gall hefyd achosi diffyg anadl hirdymor ond mae posib dadwneud hyn unwaith fyddwch chi’n gwybod beth sy’n ei achosi.
  • Trawiad ar y galon, sydd hefyd yn cael ei alw’n thrombosis rhydwelïau coronaidd.
  • Afreolaidd-dra’r galon. Sef rhythm annormal i’r galon. Efallai fyddwch chi’n teimlo bod eich calon yn colli curiad, neu’n cael crychguriadau (palpitations).
  • Goranadlu neu bwl o banig.

Diffyg anadl gronig golygu

Mae’r cyflyrau sy’n achosi diffyg anadl hirdymor yn aml yn gallu cael eu trin, ond nid oes modd dadwneud rhai yn gyfan gwbl. Gyda’r cymorth priodol, mae modd rheoli diffyg anadl. Dyma rai cyflyrau sy’n achosi diffyg anadl hirdymor:

  • Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
  • Methiant y galon. Gall hyn fod oherwydd problemau efo rhythm, falfiau neu gyhyrau cardiaidd eich calon.
  • Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint (ILD), gan gynnwys ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF). Mae’r rhain yn gyflyrau ble mae llid (inflammation) neu feinwe greithiol yn hel yn eich ysgyfaint.
  • Alfeolitis alergaidd, ble mae’r ysgyfaint yn cael adwaith alergaidd i rai mathau o lwch rydych chi’n eu hanadlu i mewn.
  • Clefydau diwydiannol neu alwedigaethol ar yr ysgyfaint fel asbestosis, sy’n cael ei achosi drwy ddod i gysylltiad ag asbestos.
  • Bronciectasis. Pan fydd eich tiwbiau broncial wedi’u creithio a’u hanffurfio sy’n arwain at gasgliad o fflem a pheswch cronig.
  • Dystroffi’r cyhyrau neu myasthenia gravis, sy’n achosi i’r cyhyrau wanio.
  • Anaemia a chlefyd yr arennau.
  • Mae bod yn ordew, ddim yn ffit, a theimlo’n bryderus neu’n isel hefyd yn gallu achosi i chi deimlo’n fyr eich gwynt. Efallai y cewch chi’r problemau hyn ochr yn ochr efo cyflyrau eraill. Mae’n rhaid eu trin nhw er mwyn trin eich diffyg anadl.

Mesur diffyg anadl golygu

Sgôr diffyg anadl y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yw’r raddfa sy’n cael ei defnyddio’n fwyaf cyffredin gan feddygon ac arbenigwyr i fesur diffyg anadl.

Graddfa Diffyg Anadl yr MRC
Gradd Graddfa diffyg anadl mewn perthynas â gweithgareddau
1 Diffyg anadl ddim yn broblem, dim ond wrth wneud ymarfer corff egnïol
2 Byr o wynt wrth frysio ar dir lefel neu gerdded fyny ychydig o allt
3 Cerdded yn arafach na’r rhan fwyaf o bobl ar dir lefel, stopio ar ôl ryw filltir, neu’n stopio ar ôl 15 munud o gerdded ar ei gyflymder ei hun
4 Stopio am wynt ar ôl cerdded ryw 100 llath neu ar ôl ychydig funudau ar dir lefel
5 Rhy fyr o wynt i adael y tŷ, neu’n fyr o wynt wrth ddadwisgo

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!