Digwyddiad aml-chwaraeon

Digwyddiad chwaraeon sydd wedi'i drefnu dros sawl diwrnod ac sy'n cynnwys cystadlaethau ym meysydd nifer o chwaraeon gwahanol ydy digwyddiad aml-chwaraeon. Fe'i cynhelir rhwng timoedd o athletwyr o wledydd gwahanol gan amlaf. Y digwyddiad modern aml-chwaraeon cyntaf o arwyddocad oedd y Gemau Olympaidd.

Y Gemau Pan America yw un o'r digwyddiadau aml-chwaraeon mwyaf gydag athletwyr o'r Dde a Gogledd America yn cymryd rhan ydnddo.

Ers hynny mae nifer o wledydd wedi sefydlu digwyddiadau aml-chwaraeon sydd wedi'u modelu ar y Gemau Olympaidd. Yr un strwythur sydd gan y mwyafrif ohonynt. Cynhelir y gemau dros gyfnod o sawl diwrnod yn, ac yn agos i'r ddinas sy'n cynnal y gystadleuaeth. Mae'r ganolfan yn newid o gystadleuaeth i gystadleuaeth. Mae gwledydd a thimoedd cenedlaethol yn danfon timoedd i bob cystadleuaeth,