Dihewyd

pentref yng Ngheredigion

Pentref a phlwyf yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Dihewyd (hen enw: Llanwyddalis). Yr hen enw ar eglwys Dihewyd oedd Llanwyddalus, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio mewn nifer o enwau lleoedd. Cyfeirir at y ffair yn 1570 fel "ffair Dalis" (Saesneg: "Llanvidales in Dyhewed", ond symudodd oddi yma i Ffair Dalis yno; symudodd y ffair oddi yma i Lanbedr Pont Steffan.[1] Saif ar y ffordd B4342 rhwng pentrefi Ystrad Aeron a Llanarth.

Dihewyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.181°N 4.216°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Ceir ysgol gynradd yma, sef Ysgol Gynradd Dihewyd, ond nid oes siop bellach.

Gorwedd tarddle Afon Granell ym mhlwyf Dihewyd ger fferm Ynys-felen, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de.

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://twitter.com/ysgol_y_dderi/status/1419567821026205696 Ysgol Y Dderi @ysgol_y_dderi ar Twitter;] adalwyd 26 Gorffennaf 2021
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu