Cymuned a thref yng ngogledd-ddwyrain Llydaw yw Dinan. Saif yn département Aodoù-an-Arvor. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 11,235.

Dinan
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,675 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Exmouth, Dinant, Québec, Lugo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd8.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr76 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Renk Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTaden, Lanvalae, Kever Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.4556°N 2.0503°W Edit this on Wikidata
Cod post22100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Dinan Edit this on Wikidata
Map

Saif y dref ar lethrau bryn uwchben afon Renk, ychydig cyn i'r afon honno gyrraedd y môr rhwng Saint-Malo a Dinard. Hyd yn ddiweddar, Dinan oedd y fan fwyaf gogleddol lle gellid croesi'r afon, ac roedd ar ffordd bwysig rhwng Normandi a dwyrain Llydaw. Mae un darn o Frodwaith Bayeux yn dangos Dinan yn cael ei dinistrio gan Gwilym Goncwerwr yn yr 11g.

Yn 1357, ymosodwyd ar Dinan gan fyddin Seisnig, ond amddiffynnwyd y dref yn llwyddiannus gan Bertrand du Guesclin, oedd wedi ei eni yn Broons gerllaw. Ceir cerflun ohono yn y dref. Mae'r castell, y Château de Dinan, yn nodedig.

Dyffryn afon Renk