Dinas Leeds

bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Leeds (Saesneg: City of Leeds).

Dinas Leeds
Mathardal gyda statws dinas, bwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Swydd Efrog
PrifddinasLeeds Edit this on Wikidata
Poblogaeth789,194 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJudith Blake, Baroness Blake of Leeds Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd551.7065 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7992°N 1.5492°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000035 Edit this on Wikidata
GB-LDS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolBwrdd Gweithredol Cyngor Dinas Leeds Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcyngor Cyngor Dinas Leeds Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arweinydd Cyngor Dinas Leeds Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJudith Blake, Baroness Blake of Leeds Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 552 km², gyda 793139 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Wakefield a Kirklees i'r de, Dinas Bradford i'r gorllewin, a Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd a'r dwyrain.

Dinas Leeds yng Ngorllewin Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn 38 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf mawr sy'n cynnwys dinas Leeds ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Garforth, Guiseley, Horsforth, Morley, Otley, Pudsey, Rothwell, Wetherby a Yeadon.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 2 Awst 2020