Dinas Powys (bryngaer)

bryngaer ym Mro Morgannwg

Mae Dinas Powys yn fryngaer fechan o tua 0.08ha, rhyw dair milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd a hanner milltir i'r gogledd o bentref Dinas Powys gyda llethrau serth.

Bryngaer Dinas Powys
Mathcaer bentir, bryngaer gyda mannau caeedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Powys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4375°N 3.2206°W Edit this on Wikidata
Cod OSST15207160 Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Disgrifiad golygu

Saif Dinas Powys ar fryn rhyw 200 troedfedd o uchder. Bu cloddio archaeolegol ar y safle rhwng 1954 a 1958. a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol, yn enwedig arteffactau o'r Oesoedd Canol.[1] Cafwyd hyd i olion o ddechrau Oes yr Haearn, o'r 5ed a'r 6g ac o ddiwedd yr 11g.

Y darganfyddiadau o'r bumed a'r 6g yw'r rhai mwyaf diddorol; Dinas Powys yw'r safle bwysicaf o'r cyfnod yma i'w darganfod yng Nghymru hyd yn hyn. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal Môr y Canoldir, gwydr o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Cafwyd hyd i ddwy adeilad petrual yn mesur tua 7.5m.

Llyfryddiaeth golygu

  • Alcock, Leslie (1963) Dinas Powys: an Iron Age, Dark Age and Early Medieval settlement in Glamorgan (Gwasg Prifysgol Cymru).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-01. Cyrchwyd 2010-09-11.