Dinas Sheffield

bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Sheffield (Saesneg: City of Sheffield).

Dinas Sheffield
Mathbwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe Swydd Efrog
PrifddinasSheffield Edit this on Wikidata
Poblogaeth569,700 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMagid Magid, Julie Dore Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd367.9302 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.41667°N 1.5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000019 Edit this on Wikidata
GB-SHF Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolcabinet Cyngor Dinas Sheffield Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcyngor Cyngor Dinas Sheffield Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arweinydd Cyngor Dinas Sheffield Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMagid Magid, Julie Dore Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 368 km², gyda 584,853 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Barnsley i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham i'r dwyrain, Swydd Derby, i'r de ac i'r gorllewin.

Dinas Sheffield yn Ne Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn dri phlwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Sheffield ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys tref Stocksbridge. Mae cyfran fawr o'r fwrdeistref ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Copaon.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 29 Awst 2020