Dinas Wakefield

bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Wakefield (Saesneg: City of Wakefield).

Dinas Wakefield
Mathbwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Swydd Efrog
PrifddinasWakefield Edit this on Wikidata
Poblogaeth345,038 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPeter Box Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Alfeld, Belgorod, Castres, Castrop-Rauxel, Girona, Hénin-Beaumont, Herne, Konin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd338.6198 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.683°N 1.499°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000036 Edit this on Wikidata
GB-WKF Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolcabinet Cyngor Wakefield Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcouncil of Wakefield Metropolitan District Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arweinydd Cyngor Wakefield Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPeter Box Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 339 km², gyda 348,312 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Kirklees i'r gorllewin, Dinas Leeds i'r gogledd, Gogledd Swydd Efrog i'r dwyrain, a De Swydd Efrog i'r de.

Dinas Wakefield yng Ngorllewin Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn 30 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Wakefield ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Castleford, Featherstone, Hemsworth, Knottingley, Normanton, Ossett, Pontefract a South Elmsall.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 1 Awst 2020