Clogwyn sylweddol yn Nant Peris, Eryri yw Dinas y Gromlech (hefyd Dinas Cromlech) sydd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad dringo yng Nghymru a Phrydain. Cyfeirnod OS: SH629569.

Dinas y Gromlech
Dinas y Gromlech o Lwybr Pyg
Mathcraig, climbing area Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBwlch Llanberis Edit this on Wikidata
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr500 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0921°N 4.0476°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir y graig ar lethrau gogleddol cwm Nant Peris tua hanner ffordd i fyny rhwng pentref Nant Peris a Phen-y-Pass ar ben Bwlch Llanberis. Tu ôl i'r graig ceir Esgair Felen, braich dde-orllewinol mynydd Glyder Fawr. Enwir y graig ar ôl Y Gromlech, carreg naturiol wrth ei throed. Cysylltir y Gromlech â chwedl werin am Ganthrig Bwt, gwrach neu gawres ofnadwy oedd yn byw dan y gromlech ac yn bwyta plant. Mae'r gair 'dinas' yn golygu "caer" yma.

Mae'r graig yn wynebu'r de ac felly'n denu'r haul. Mae'n tua 1,400 troedfedd uwch lefel y môr ac mae ei uchder yn amrywio o tua 150 hyd at 350 troedfedd. Mae'r dringo yn syrth ond mae'r garreg yn dda a diogel. Ceir sawl llwybr dringo adnabyddus arno, yn cynnwys:

  • Flying Buttress (dringwyd am y tro cyntaf yn 1931); y dringo hawsaf ar y Gromlech)
  • Ivy Sepulchre (1947)
  • Cemetry Gates (1951 gan Joe Brown a Don Whillans)
  • Cenotaph Corner (1952 gan Joe Brown a Don Whillans)
  • Spiral Stairs (1931)
  • Sabre Cut (1935)
  • Pharaoh's Wall (1933)

Mae Dinas y Gromlech yn gorwedd tua 200 metr o'r ffordd sy'n dringo'r cwm a gellir ei gyrraedd o fan parcio sydd yno, ger Pont y Gromlech.

Ffynhonnell golygu

  • Ron James, Rock Climbing in Wales (Constable, 1970; sawl argraffiad ers hynny).