Diplomyddiaeth y Ddoler

Term ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau dan yr Arlywydd William Howard Taft (1909–13) yw Diplomyddiaeth y Ddoler. Cred Taft a'i Ysgrifennydd Gwladol, Philander C. Knox, oedd y dylai diplomyddiaeth Americanaidd anelu at greu trefn ryngwladol oedd yn fuddiol i ddiddordebau economaidd yr Unol Daleithiau.[1] Canolbwyntiodd Diplomyddiaeth y Ddoler ar America Ladin a Dwyrain Asia.

Diplomyddiaeth y Ddoler
Enghraifft o'r canlynolpolisi Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaWilliam Howard Taft Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Wrth graidd y polisi oedd y gred y byddai buddsoddiad Americanaidd mewn gwledydd eraill yn creu sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol. Ceisiodd Taft a Knox berswadio gwledydd eraill i adael busnesau Americanaidd masnachu ynddynt ac i fenthyg o fanciau Americanaidd. Er y pwyslais ar ddulliau economaidd ac ariannol, nid oedd Diplomyddiaeth y Ddoler yn diystyru ymyrraeth wleidyddol neu filwrol.[2] Ym 1909 darparodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth i Juan José Estrada yn ei wrthryfel yn erbyn José Santos Zelaya, Arlywydd Nicaragwa. Wedi i Zelaya gael ei ddymchwel, sicrhaodd Knox rheolaeth Americanaidd dan yr Arlywyddion Estrada ac Adolfo Díaz. Benthycodd Brown Brothers a J. and W. Seligman, dau fanc a leolir yn Efrog Newydd, $15 miliwn i Nicaragwa, ac fe gawsant reolaeth dros asiantaeth dollau'r wlad er mwyn sicrhau ad-daliad.[3]

Imperialaeth Newyddgw  sg  go )
Codiad Imperialaeth Newydd
Imperialaeth yn Asia
Yr Ymgiprys am Affrica
Diplomyddiaeth y Ddoler
Damcaniaethau ar Imperialaeth Newydd


Er ambell lwyddiant, ni allai Diplomyddiaeth y Ddoler atal chwyldroadau ym Mecsico, Nicaragwa, a Tsieina.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Dollar Diplomacy, 1909-1913. Swyddfa'r Hanesydd, Adran Wladol yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 24 Awst 2012.
  2. Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998), t. 132.
  3. Kinzer, S. Overthrow: America's Century of Regime Change from Hawaii to Iraq (Efrog Newydd, Henry Holt, 2006), tt. 98–9.