Rhwydwaith deledu Americanaidd ydy Disney Channel. Mae'n darlledu ar deledu cebl a theledu lloeren, a lleolir ei phencadlys yn West Alameda Ave. yn Burbank, Califfornia. Mae'r sianel yn eiddo i'r Disney-ABC Television Group sy'n rhan o'r The Walt Disney Company. Mae gan y Sianeli Disney Bydeang bortffolio rhyngwladol o dros 90 o sianeli sydd wedi eu hanelu at blant a theuluoedd a gellir gwylio'r sianeli mewn dros 160 o wledydd ac mewn 30 o ieithoedd.

Disney Channel
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu, sianel deledu thematig, cable channel Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Ebrill 1983 Edit this on Wikidata
PerchennogDisney Branded Television Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadThe Walt Disney Company Edit this on Wikidata
PencadlysBurbank Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://disneychannel.disney.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arbeniga'r sianel mewn creu rhaglenni ar gyfer plant ar ffurf cyfresi a ffilmiau gwreiddiol, yn ogystal â rhaglenni gan gwmnïau allanol. Caiff y sianeli eu marchnata'n bennaf at blant rhwng 6-12 oed, ac eithrio eu rhaglenni penwythnos sydd wedi eu hanelu at blant rhwng 9-15 oed. Fodd bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ystod o wylwyr wedi ehangu ac mae bellach yn cynnwys cynulleidfa hŷn, megis arddegwyr a theuluoedd ifanc.