Mae ditectif yn ymchwilydd, fel arfer yn aelod o asiantaeth gorfodaeth cyfraith. Maent yn aml yn casglu gwybodaeth i ddatrys troseddau trwy siarad â thystion a hysbyswyr, casglu tystiolaeth gorfforol, neu chwilio cofnodion mewn cronfeydd data. Mae hyn yn eu harwain i arestio troseddwyr a'u galluogi i gael eu dyfarnu'n euog yn y llys.[1] Gall ditectif weithio i'r heddlu neu'n breifat.

Trosolwg golygu

Yn anffurfiol, ac yn bennaf mewn ffuglen, mae ditectif yn berson trwyddedig neu heb drwydded sy'n datrys troseddau, gan gynnwys troseddau hanesyddol, trwy archwilio a gwerthuso cliwiau a chofnodion personol er mwyn datgelu hunaniaeth a / neu leoliad y troseddwr.

Mewn rhai adrannau heddlu, cyflawnir swydd dditectif trwy basio prawf ysgrifenedig ar ôl i berson gwblhau'r gofynion ar gyfer bod yn heddwas. Mewn llawer o systemau heddlu eraill, mae ditectifs yn raddedigion coleg sy'n ymuno'n uniongyrchol o fywyd sifil heb wasanaethu fel swyddogion heddlu.

Mae rhai ditectifs yn gweithio'n annibynnol, ac ambell waeth yn cael eu galw'n ymchwilwyr preifat.

Hanes golygu

Cyn y 19eg ganrif, prin oedd yr adrannau heddlu trefol, er bod y cyntaf wedi'i greu ym Mharis ym 1667. Wrth i weithgareddau'r heddlu symud o benodwyr a gynorthwywyd gan wirfoddolwyr i weithwyr proffesiynol, ni chododd y syniad o dditectifs ymroddedig ar unwaith. Sefydlwyd yr asiantaeth dditectif breifat gyntaf gan Eugène François Vidocq ym Mharis yn gynnar yn y 1820au, a oedd hefyd wedi bod yn bennaeth ar asiantaeth heddlu yn ogystal â bod yn droseddol ei hun. Cafodd gweithgareddau ditectif yr heddlu eu harloesi yn Lloegr gan y Bow Street Runners ac yn ddiweddarach y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan yn Llundain.[2] Ffurfiwyd uned dditectif gyntaf yr heddlu yn yr Unol Daleithiau ym 1846 yn Boston.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bryce, Robert. "Detective (Bureaus) - NYPDS". New York Police Department. City of New York. Cyrchwyd 25 January 2018. Detective work is highly specialized, usually encompassing the examination and evaluation of evidence to apprehend suspects and to build solid cases against them.
  2. "The First English Detectives - History Today". Cyrchwyd 29 October 2016.
  3. "The incredible untold story of America's first police detectives - The Boston Globe". Cyrchwyd 29 October 2016.