Diwinyddiaeth neu athrawiaeth grefyddol sydd yn ymwneud â'r pethau diwethaf neu ddiwedd y byd yw diwethafiaeth,[1] esgatoleg[2] neu eschatoleg.[3] Mae crefyddau a mytholegau ar draws y byd yn darogan cyfnod terfynol i hanes y ddynolryw. Er enghraifft, mae Cristnogaeth yn rhagweld datguddiad trwy atgyfodiad y meirw, y Farn Ddiwethaf, y cyfnod Meseianaidd, y frwydr olaf rhwng Crist a'r Anghrist yn Armagedon, a chyfiawnhad Duw. Arddela cynddelwau diwethafaidd yn ogystal gan fudiadau seciwlar.

Cyfeiriadau golygu

  1.  diwethafiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  2.  esgatoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  3. Geiriadur yr Academi, [eschatology].
  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.