Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Merched neu Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth.[1] Dethlir mewn gwahanol ffyrdd leled y byd gan gynnwys mynegi: parch, gwerthfawrogiad a chariad yn ogystal â dathlu llwyddiannau'r ferch yn y byd gwleidyddol, gwyddonol, ariannol ayb.

Poster Almaenig o 8 Mawrth 1914

Digwyddiad sosialaidd ydoedd yn wreiddiol ac fe'i cyfrifwyd yn ddiwrnod gŵyl mewn rhai gwledydd yn Ewrop a Rwsia, ond dros amser collwyd yr elfen sosialaidd a daeth yn gyfuniad o Ddiwrnod y Mamau a Diwrnod Sant Ffolant. Mewn gwledydd eraill, fodd bynnag, canolbwyntiwyd yn fwy ar hawliau dynol a brwydrau ac ymdrechion y ferch dros y blynyddoedd. Dethlir y diwrnod mewn rhai mannau drwy wisgo rhuban porffor.

Logo Wicipedia i ddathlu'r diwrnod.

Hanes y diwrnod golygu

Yn Awst 1910 trefnwyd Cynhadledd Merched Rhyngwladol ac a ysbrydolwyd gan y Sosialwyr Americanaidd ac Almaenig Luise Zietz a awgrymodd sefydlu'r diwrnod yn rhyngwladol. Eiliwyd y cynnig gan yr arweinydd comiwnyddol Clara Zetkin. Fodd bynnag, ni phenodwyd dyddiad ar gyfer y gynhadledd.[2][3] Roedd yn y cyfarfod hwn oddeutu cant o ferched o 17 o wahanol wledydd, a chytunent y dylai'r diwrnod hyrwyddo hawliau cyfartal gan gynnwys 'dioddefaint merched' (neu suffarage yn y gwreiddiol).[4] Y flwyddyn wedyn ar 19 Mawrth, dathlwyd y diwrnod gan dros filiwn o bobl o Awstria, Denmarc, yr Almaen a'r Swistir.[5][6] Cafwyd hefyd dros 300 o brotestiadau yn yr Ymerodraeth Awstria-Hwngari.[2] Mynnwyd yr hawl i ferched bleidleisio ac i dal swyddi cyhoeddus.

 
Aelodau benywaidd 'Ffederasiwn Adeiladwyr Awstralia' yn gorymdeithio drwy Sydney yn 1975.

Yn 1913 dathlodd Rwsiaid benywaidd y diwrnod ar y Sul olaf o Chwefror (yn ôl Calendr Iŵl).[6] Y flwyddyn wedyn, roedd y diwrnod hwn yn digwydd bod ar yr 8fed, a chynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Merched cyntaf ar y dydd hwn ac ers hynny.[6]

Yn Llundain ar 8 Mawrth 1914, gorymdeithiwyd o Bow i Sgwâr Trafalgar ac arestiwyd Sylvia Pankhurst o flaen gorsaf Charing Cross.[7]

Y Cenhedloedd Unedig golygu

Yn y gwledydd gorllewinol, ni dderbyniwyd y diwrnod fel gŵyl swyddogol, cenedlaethol tan 1977 pan wahoddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei haelodau i ddatgan 8 Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw a Heddwch Rhyngwladol, yn flynyddol.[8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "UN WomenWatch: International Women's Day – History". UN.org. Cyrchwyd 2013-02-21.
  2. 2.0 2.1 Temma Kaplan, "On the Socialist Origins of International Women's Day", Feminist Studies, 11/1 (Spring, 1985)
  3. "History of International Women's Day". United Nations. Cyrchwyd 26 Mai 2012.
  4. "About International Women's Day". Internationalwomensday.com. 8 Mawrth 1918. Cyrchwyd 2013-03-08.
  5. "Cefndir DRhM gan y [[Cenhedloedd Unedig]]". Un.org. Cyrchwyd 2012-03-08. URL–wikilink conflict (help)
  6. 6.0 6.1 6.2 "8th of March - International woman's day: in search of the lost memory". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-13. Cyrchwyd 2014-03-14. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Suffragist Disorders". The Times. 9 Mawrth 1914. Cyrchwyd 9 Mai 2014.
  8. "WomenWatch: International Women's Day". Un.org. Cyrchwyd 2012-03-08.