Diwrnod mabolgampau

Mae diwrnodau mabolgampau neu ddiwrnodau maes yn ddigwyddiadau a drefnir gan lawer o ysgolion lle mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cystadleuol, yn aml gyda'r nod o ennill tlysau neu wobrau. Er eu bod gan amlaf yn cael eu cynnal ar ddechrau'r haf, gellir eu cynnal yn nhymor yr hydref neu'r gwanwyn hefyd, yn enwedig mewn gwledydd lle mae'r haf yn galed iawn. Mae ysgolion yn cynnal nifer o ddiwrnodau chwaraeon lle mae plant yn cymryd rhan yn y digwyddiadau chwaraeon.

Ras ŵy ar lwy ar ddiwrnod mabolgampau Ysgol Gynradd Harlescott, ger Amwythig, yn 1952.

Mewn nifer o ysgolion, mae'r gystadleuaeth rhwng timau (neu lysoedd) yn nodwedd bwysig o'r mabolgampau. Bydd llysoedd yn aml yn cael eu henwi ar ôl pethau sy'n perthyn i'w hardal a bydd ganddynt bob un ei liw unigryw.

Gall gemau sy'n cael eu chwarae ar ddiwrnodau mabolgampau fod yn eang ac amrywiol. Gallant gynnwys rasys rhedeg syml a rasys hirach ar gyfer pob grŵp oedran yn ogystal â rasys wyau a llwyau. Mae rasys tair coes yn cael eu rhedeg yn ogystal â rasys sach, rasys berfa, a rasys rhieni a phlant.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gordon, Chris. "Mr". Trophies Awards and Gifts Store. Trophies Awards and Gifts Store. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-20. Cyrchwyd 1 May 2011.