Diwydiant gwlân Cymru

Un o ddiwydianau traddodiadol Cymru yw diwydiant gwlân Cymru. Mewn gwirionedd, o'r oesoedd canol hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn un o'r pwysicaf. Ar ei anterth, gwisgwyd gwlanen Gymreig gan lowyr a gweithwyr dur yn ogystal â byddinoedd Dug Wellington.

Melin wlân Penmachno. Ffotograff gan Geoff Charles (1952).
Cae Tanws, Dolgellau, cyn ffatri wlân.

Dichon fod cynhyrchu gwlân o gnu defaid yn weithgaredd economaidd yn y wlad ers canrifoedd lawer. Cafodd y "diwydiant bwthyn" hwnnw hwb mawr yn y 12g gyda sefydlu abatai'r Sistersiaid yng Nghymru. Un o brif weithgareddau economaidd yr abatai hyn, fu'n perchen tiroedd eang, oedd magu defaid a chynhyrchu gwlân.

Trwy gydol y cyfnod canoloesol, roedd y droell nyddu’n elfen yr un mor flaenllaw yn y cartref Cymreig ag a oedd yr aelwyd[1]. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y gwlân ar gyfer gofynion lleol yn unig, a chawsant y gwlân hwn o’u diadelloedd eu hunain. Yn ystod teyrnasiad Harri II ac Edward III, cafodd mewnfudwyr o Fflandrys a ddaeth i Gymru ddylanwad mawr ar y cynhyrchiad gwlân, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro, Gŵyr a De Gwent. Dechreuwyd allforio unrhyw wlân crai a oedd yn weddill i Fflandrys.

yn y 18g a'r 19eg, tyfodd y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru. Roedd gweu hosanau gwlân yn gymorth i nifer o deuluoedd amethyddol gael tipyn o bres dros y gaeaf, gyda'r merched a gwragedd yn gwneud y gwaith fel arfer. Un o'r canolfannau mawr oedd Meirionnydd, yn enwedig yn ardaloedd Y Bala a Dolgellau. Roedd canolfannau eraill erbyn y 1850au yn cynnwys ardal Y Drenewydd a Llanidloes ym Maldwyn, cefn gwlad Llangollen, tref Aberhonddu, yr ardal o gwmpas Castellnewydd Emlyn a Llanbedr Pont Steffan yn ne Ceredigion ac ardal Caerfyrddin. Yn wir, ystyriwyd y Drenewydd fel ‘Leeds Cymru’ ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a galwyd dyffryn Teifi yn 'Huddersfield Cymru'.[2]

Y Drenewydd - Leeds Cymru golygu

Rhwng 1771 a 1831 tyfodd poblogaeth y Drenewydd o oddeutu 800 i 4550. Nid oes amheuaeth mai’r twf enfawr mewn gweithgynhyrchu gwlanen a achosodd hyn. Ym 1790, dim ond un gwneuthurwr gwlanen oedd i’w gael yno. Ond, erbyn 1800 roedd melinau cribo, nyddu a phannu wedi dechrau ymddangos, yn ogystal â siopau gwehyddu. Sefydlwyd llawer o ffatrïoedd edafedd newydd yn negawd cyntaf y ganrif newydd. Ar y pryd, manteisiodd Y Parch G.A. Evors ar y galw cynyddol drwy adeiladu neu adnewyddu ffatrïoedd a'u gwerthu i wneuthurwyr amrywiol yn y fasnach am renti uchel.[3]

Cafodd llwybrau trafnidiaeth eu gwella a chafodd ffatrïoedd newydd eu hadeiladu. Estynnwyd camlas Swydd Amwythig i'r Drenewydd ym 1821. Adeiladwyd y ffordd rhwng y Drenewydd a Llanfair ym Muallt ym 1825 gan alluogi i'r nwyddau gael eu hanfon mewn wagen a throl i Dde Cymru. Gallwn ni weld maint yr ehangu drwy edrych ar y ffigurau mewn cyfeirlyfrau masnach, er nad oes modd gwirio eu cywirdeb. Ym 1823 cofnodwyd pum deg pedwar o wneuthurwyr gwlanen, ac erbyn 1830 roedd wyth deg un ohonyn nhw.

Er gwaethaf y twf yn y diwydiant daeth llawer o broblemau cysylltiedig i'r amlwg. Am fod y galw am y gwlân a phris y gwlân yn amrywio, cafwyd cyfnodau o ddirwasgiad economaidd yn y fasnach. Roedd diweithdra a chyflogau isel yn broblem reolaidd, a gorfodwyd llawer o wehyddwyr i symud i Ogledd Lloegr, a hyd yn oed i fudo draw i America. Ar ben hynny, roedd y gystadleuaeth gref gan wlanen Rochdale yn ei gwneud hi'n anodd iawn i’r diwydiant yn Sir Drefaldwyn barhau.

O ganlyniad i’r amodau gwael a'r anniddigrwydd ymhlith y dosbarthiadau gweithiol yn ystod y 1830au, gwelwyd ymchwydd ym mhoblogrwydd mudiad y Siartwyr. Ym 1939 cafwyd protestiadau treisgar parhaus gyda gweithwyr tecstilau'r Drenewydd yn arwain o'r tu blaen. Sefydlwyd melinau gwlân a ffatrïoedd mewn ardaloedd eraill o Gymru, e.e. ym mhentref Trefriw, Cwm Conwy. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn atyniadau i dwristiaid heddiw.

Y diwydiant gwlân heddiw golygu

Heddiw mae'r diwydiant gryn dipyn yn llai o ran ei faint gyda llai na dwsin o felinau’n dal i weithredu yng Nghymru[4]. Disodlwyd y cynhyrchiad gwlanen wreiddiol i raddau helaeth gan flancedi tapestri gwehyddu dwbl a gorchuddion gwely. Mae'r blancedi’n cael eu gwehyddu â gwaith patrwm lliwgar a chywrain, gyda chynllun lliw gwahanol ar bob ochr. Mae galw arbennig am batrwm tapestri Caernarfon neu'r patrwm 'porthcwlis' fel y mae pobl yn ei alw. Mae dylunwyr mewnol yn hoff o’r deunydd hwn oherwydd yr amrywiaeth o naws a gwead sydd ganddo[1]. Gall y blancedi hyn werthu am gannoedd o bunnoedd ac maen nhw’n adnabyddus am eu hansawdd, eu cynllun deniadol, eu cynhesrwydd a’u hirhoedledd.

Gellir dysgu am hanes y diwydiant gwlân yn Amgueddfa Wlân Cymru. Fe'i lleolir ym mhentref Dre-fach Felindre, oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne-orllewin Cymru, ger Castellnewydd Emlyn, tua 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Jones, Mary Eirwen (1978). Welsh Crafts. Batsford Ltd. tt. 28.
  2. "Llandysul National Wool Museum". Visit Mid Wales.
  3. Jenkins, J. Geraint (2005). The Flannel Makers: A Brief History of the Welsh Woollen Industry. Gwasg Carreg Gwalch. t. 28. ISBN 0-86381-963-X.
  4. "O Felin Tregwynt i Felin Teifi: Y Canllaw Gorau Posib ar Ymweld â'r Melinau Gwlân sy'n Gweithio Heddiw yng Nghymru". Welsh gifts with heart.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.