Diwylliant yr Iseldiroedd

Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y 17g, yng nghyfnod Gweriniaeth yr Iseldiroedd, roedd arlunwyr megis Rembrandt van Rijn, Johannes Vermeer, Jan Steen, Jacob van Ruysdael ac eraill. Dilynwyd hwy yn y 19eg a'r 20g gan Vincent van Gogh a Piet Mondriaan, Willem de Kooning a'r arlunydd graffig M. C. Escher.

Erasmus (1466 - 1536).

Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae Erasmus o Rotterdam a Spinoza, ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth René Descartes ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys Christiaan Huygens (1629-1695), darganfyddwr Titan, un o leuadau Sadwrn, a dyfeisiwr y cloc pendil, ac Antonie van Leeuwenhoek, y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop.

Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae Joost van den Vondel a P.C. Hooft o'r 17g, Multatuli yn y 19g ac yn yr 20g awduron fel Harry Mulisch, Jan Wolkers, Simon Vestdijk, Cees Nooteboom, Gerard (van het) Reve a Willem Frederik Hermans. Cyfieithwyd dyddiadur Anne Frank i lawer o ieithoedd.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato