Prifddinas swyddogol Tansanïa yw Dodoma. Fe'i lleolir yn Rhanbarth Dodoma yng nghanolbarth y wlad, tua 486 km i'r gorllewin o'r gyn-brifddinas Dar es Salaam a 441 km i'r de o Arusha. Roedd ganddi boblogaeth o tua 324,000 yn 2002. Y bobl Gogo, Rangi, Sandawe a Burunge yw prif grwpiau ethnig yr ardal.

Dodoma
Mathdinas fawr, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth213,636, 213,636, 150,604, 45,807 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1906 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Jaipur, Bangui, Linz, Watsa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Dodoma Edit this on Wikidata
GwladBaner Tansanïa Tansanïa
Arwynebedd2,576 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,120 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.1835°S 35.746°E Edit this on Wikidata
Map

Roedd Dodoma yn safle pwysig ar y rheilffordd rhwng Cefnfor India a Llyn Tanganica yn hanesyddol. Fe'i datganwyd yn brifddinas Tansanïa ym 1974 a symudodd y Cynulliad Cenedlaethol yno ym 1996 ond mae llawer o swyddfeydd y llywodraeth yn aros yn Dar es Salaam.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dansanïa. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.