'Da pluog' neu 'ffowls' yw'r hen enwau ar ddofednod, sef pob math o ieir, gwyddau a thyrcwn sydd wedi'u dofi (Saesneg: fowls, poultry). Gair cymharol newydd ydyw, ac fe'i cofnodwyd am y tro cyntaf yn 1828.[1]

Daeth ieir a gwyddau i Brydain yn y cyfnod Celtaidd; hwyaid gyda'r Normaniaid a thyrcwn yn yr 16g. Megid ieir yn wreiddiol ar gyfer ymladd ceiliogod ag am eu hwyau a'u cig. Parhaodd ymladd yn boblogaidd, mewn talyrnau pwrpasol, tan ei anghyfreithloni yn 1849. Datblygwyd nifer fawr o wahanol fridiau o ieir ac fe'u cedwid ar bob fferm, tyddyn a llawer o erddi-cefn pentrefol tan ganol yr 20g. Ers hynny cynyddodd ffermio dwys lle cedwir degau o filoedd o ieir dan do. Ceir llawer o rigymau a choelion am ieir ac erys eu dangos mewn sioeau yn boblogaidd.

Yng Nghymru golygu

Dan Gyfraith Hywel pennid cosb o ŵy ac ailblannu'r cnwd a ddifrodwyd ar berchennog gŵydd a grwydrodd i gae ŷd cymydog. Defnyddid adain gŵydd i hel llwch; y bluen fel cwilsyn ysgrifennu ac i wneud saethau; rhannau o'r llafn mewn offerynnau chwyth neu yn deth i oen amddifad sugno drwyddi a rhoddid y manblu mewn clustogau a gwely plu. Defnyddid saim gŵydd i ystwytho lledr, iro peiriannau ac yn feddyginiaeth i ddyn ac anifail. Cedwid llawer o wyddau ar diroedd comin yn y 18g a cherddwyd llawer ohonynt i Loegr gan borthmyn fyddai'n rhoi pyg a thywod i arbed traed yr adar wrth deithio. Pesgid llawer o wyddau ar gyfer marchnad y Nadolig ac roedd y diwrnod pluo yn achlysur cymdeithasol pwysig cyn i'r twrci eu disodli. Ceir un brîd Cymreig o ŵydd - y Brecon buff.

Adar buarth eraill oedd hwyaid, ieir gini a thyrcwn. Addaswyd y twrci ar gyfer ffermio dwys ac ers canol yr 20g ef yw prif aderyn bwrdd y Nadolig. Cedwid peunod ar rai ffermydd, fel sioe yn bennaf, ond hefyd am eu bod yn lladd nadroedd. Ar ddiwedd yr 20g mentrodd rhai amaethwyr Cymreig gadw estrysod am eu cig a'u plu.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 26 Mai 2017.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).