Dog Day Afternoon

ffilm ddrama am ladrata gan Sidney Lumet a gyhoeddwyd yn 1975

Ffilm ddrama o 1975 yw Dog Day Afternoon a gyfarwyddwyd gan Sidney Lumet, ysgrifennwyd gan Frank Pierson, a chynhyrchwyd gan Martin Bregman. Mae'r ffilm yn serennu Al Pacino, John Cazale, Charles Durning, Chris Sarandon, Penny Allen, James Broderick, a Carol Kane. Cyfeiria'r teitl at "ddyddiau cŵn yr haf".

Dog Day Afternoon

Poster theatraidd
Cyfarwyddwr Sidney Lumet
Cynhyrchydd Martin Bregman
Martin Elfand
Ysgrifennwr Frank Pierson
Serennu Al Pacino
John Cazale
Charles Durning
James Broderick
Chris Sarandon
Cerddoriaeth Elton John
Uriah Heep
Sinematograffeg Victor J. Kemper
Golygydd Dede Allen
Dylunio
Dosbarthydd Warner Bros.
Dyddiad rhyddhau 21 Medi 1975
Amser rhedeg 125 munud
131 munud (Toriad y cyfarwyddwr)
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Refeniw gros $50,000,000

Ysbrydolwyd y ffilm gan erthygl gan P.F. Kluge o'r enw "The Boys in the Bank",[1] sy'n adrodd stori debyg am ysbeiliad banc yn Brooklyn gan John Wojtowicz a Salvatore Naturile ar 22 Awst 1972. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yng nghylchgrawn Life ym 1972.[2] Pan ryddhawyd ym Medi 1975 gan Warner Bros. Pictures (sydd yn awr yn rhan o Time Warner), derbynodd y ffilm adolygiadau ffafriol ar y cyfan, â nifer ohonynt yn trafod ei naws gwrth-sefydliadol. Enwebwyd Dog Day Afternoon am nifer o Wobrau'r Academi a gwobrau Golden Globe, ac enillodd un Wobr yr Academi.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Rayburn, Nina. The Write Stuff: Magazine articles that make it to the Big Screen. New York Review of Magazines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2006.
  2. "The Boys in the Bank" gan P.F. Kluge a Thomas Moore yn Life, 22 Medi 1972, Cyf. 73(12).