Techneg genetig y llygaid yw dojutsu (瞳術 - Japaneg) yn y gyfres anime a manga Naruto. Gelwir dechnegau genetig Kekkei Genkai, a gyfieithir fel techneg sydd ar gael o fewn llinell gwaed. Mae yna tri math o dojutsu: Sharingan, Rinnegan, a Byakugan.

Y tri math o dojutsu: Rinnegan, Byakugan, Sharingan

Effeithiau golygu

Er bod y tri math o dojutsu yn wahanol i'w gilydd, mae gan y tri dechnegau anhygoel.

Byakugan golygu

Kekkei Genkai y teulu Hyuuga yw'r Byakugan. Mae ganddo'r pŵer i weld pethau trwy effaith pelydrau-x, ac felly gyda'r pŵer i hefyd gweld chakra o fewn cyrff pobl eraill. Mae ganddo gweledigaeth 360º, ond mae ganddynt man dall argwaelod cefn eu gwddf.

Rinnegan golygu

Y dojutsu mwyaf pwerus yw'r Rinnegan: mae ganddo'r pŵer i wneud unrhyw beth. Er hynny, dim ond dau gymeriad yn y gyfres sydd efo Rinnegan.

Sharingan golygu

Olrheiniodd y Sharingan o'r Rinnegan yn ystod dyddiau'r Doethwr o Chwech Llwybrau. Kekkei Genkai (pŵer ofnadwy) yw'r Sharingan sy'n perthyn i'r teulu Uchiha. Fel y Byakugan, mae ganddynt y pŵer i weld chakra pobl eraill: oherwydd gallant synhwyro chakra, mae ganddyn nhw hefyd y dechneg i dorri genjutsu.