Addysgwraig, seicolegydd addysgol a gwleidydd o Gatalwnia yw Dolors Bassa (ganed 1959). Roedd yn Weinidog yn Llywodraeth Catalwnia (y Generalitat de Catalunya) hyd at 27 Hydref 2017. Bu'n hynod o weithgar gydag undebau llafur y wlad, yn enwedig y Unión General de Trabajadores. Ers Mawrth 2018 fe'i carcharwyd wrandawiad llys, ar orchymyn Uchel Lys Sbaen (sy'n rhan o Lywodraeth Sbaen); y cyhuddiad yn ei herbyn yw gwrthryfela ac annog gwrthryfel.[1][2]

Dolors Bassa
GanwydDolors Bassa i Coll Edit this on Wikidata
2 Chwefror 1959 Edit this on Wikidata
Torroella de Montgrí Edit this on Wikidata
Man preswylTorroella de Montgrí Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Girona
  • Prifysgol Agored Catalwnia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur, addysgwr, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Catalwnia, Cynghorydd Dinas Ajuntament de Torroella, Gweinidog dros Lafur, Materion Cymdeithasol a Theuluoedd, First Deputy Mayor, Aelod o Senedd Catalwnia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Centre educatiu privat Sant Gabriel
  • Col·legi Vedruna de Palafrugell Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolEsquerra Republicana de Catalunya Edit this on Wikidata
PlantJosep Surroca Bassa Edit this on Wikidata
Gwobr/auMontgrí's Medal Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar golygu

Graddiodd mewn Addysg ym Mhrifysgol Girona yn 1979 a derbyniodd ail radd, mewn seicoleg, yn 2007. Bu'n athrawes catalaneg yn Palafrugell rhwng 1979 a 1986 ac yn Torroella de Montgrí rhwng 1986 a 2015.[3]

Cychwynodd ei gyrfa wleidyddol pan etholwyd hi'n gynghorydd Torroella de Montgrí ar ran y Chwith Weriniaethol Catalwnia (Esquerra Republicana de Catalunya), rhwng 2007 a 2015.[4] Yn 2000 bu'n weithgar gyda'r undeb llafur, y Unión General de Trabajadores, neu'r UGT ac etholwyd hi'n Ysgrifennydd Cyffredinol yn 2008, hyd at 2015.[5]

Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 hi oedd y 6ed ymgeisydd ar y rhestr, ac etholwyd hi fel aelod o Junts pel Sí ar ran etholaeth Girona yn aelod o Senedd Catalwnia. Fe'i hetholwyd yn Weinidog yn y Llywodraeth honno (llywodraeth Carles Puigdemont) ar 13 Ionawr 2016.

Annibynniaeth a charchar golygu

Cafodd hi, a phob aelod arall o Lywodraeth Catalwnia, ei diarddel o Lywodraeth Catalwnia gan Lywodraeth Sbaen, defnyddiodd Llywodraeth Sbaen Erthygl 55 o'r Cyfansoddiad er mwyn gwneud hyn.

Ar 2 Tachwedd 2017 danfonwyd hi i garchar yn Madrid (Sbaen), heb achos llys. Ar 1 Chwefror, trosglwyddwyd hi i garchar Alcalá-Meco ar gyfer gwrandawiad llys yn Chwefror 2019, ar gyhuddiad o gamddefnyddio arian cyhoeddus a gwrthryfela.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dolors Bassa i Coll". Gran Enciclopèdia Catalana (yn Catalan). Cyrchwyd 27 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "Dolors Bassa, consellera de Treball, Afers Socials i Famílies" [Dolors Bassa, Counselor of Labour, Social Affairs and Families]. Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (yn Catalan). 14 Ionawr 2016. Cyrchwyd 27 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Llobet, Àlvar (11 Ionawr 2016). "PERFIL Dolors Bassa, una mestra sindicalista a la conselleria de Benestar" [Profile of Dolors Bassa, a syndicalist teacher as a Counselor of Labour]. Nació Digital (yn Catalan). Cyrchwyd 27 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Europa Press, gol. (13 Ionawr 2016). "Dolors Bassa, de UGT a Trabajo, Asuntos Sociales y Familias" [Dolors Bassa, from the UGT to Counselor of Labour, Social Affairs and Families]. 20minutos (yn Spanish). Cyrchwyd 27 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Puig, Oriol (5 Awst 2015). "Dolors Bassa dimitirà de la secretaria general de la UGT a Girona al setembre" [Dolors Bassa is going to resign as General UGT Secretary of Girona in Medi]. Diari de Girona (yn Catalan). Girona. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)