Don Shepherd

cricedwr Cymraeg

Cyn-gricedwr fu'n chwarae i Glwb Criced Morgannwg oedd Donald John Shepherd, a adwaenir fel Don Shepherd (12 Awst 192718 Awst 2017)[1]. Ef oedd y bowliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Morgannwg. Cymerodd 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 22.32, gan gynnwys 2,174 dros Forgannwg, y nifer fwyaf yn hanes y sir. Ef sy’n dal y record ar draws y siroedd am y nifer fwyaf o wicedi dosbarth cyntaf gan fowliwr sydd heb chwarae dros Loegr (2,218 – gan gynnwys yr MCC) – mae’n rhif 22 ar y rhestr, islaw 21 o chwaraewyr rhyngwladol ac uwchlaw cricedwyr rhyngwladol di-ri.[2]

Don Shepherd
Ganwyd12 Awst 1927 Edit this on Wikidata
Port Einon Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gowerton Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Criced Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed ef ym Mhort Einon, Penrhyn Gŵyr, a dechreuodd chwarae i dîm Morgannwg yn 1950, gan gymeryd 120 o wicedi y tymor hwnnw. Yn nhymor 1956, cymerodd 177 o wicedi. Roedd yn rhan o dîm Morgannwg pan enillasant bencampwriaeth y siroedd yn 1969.

Roedd e'n aelod o dîm Morgannwg a drechodd Awstralia ddwywaith - yn 1964, ac yna fel capten yn 1968.

Ymddeolodd yn 1972 a bu'n gyd-sylwebydd a dadansoddwr criced i BBC Cymru am dros 30 mlynedd, gan sylwebu o San Helen yn 2017 cyn ei farwolaeth yn 90 oed. Fe fu hefyd yn Llywydd ar Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr yn Abertawe a’r de orllewin.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyn-gricedwr Morgannwg, Don Shepherd wedi marw yn 90 oed , BBC Cymru Fyw, 19 Awst 2017.
  2. Y cyn-gricedwr a sylwebydd criced Don Shepherd wedi marw , Golwg360, 19 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.
  3. Teyrngedau i ‘Shep’, un o fawrion Clwb Criced Morgannwg , Golwg360, 20 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.